Ewch i’r prif gynnwys

Blogiau

Canllaw i gynfyfyrwyr ar ddechrau eich gyrfa lawrydd – Bossing It

Canllaw i gynfyfyrwyr ar ddechrau eich gyrfa lawrydd – Bossing It

23 Tachwedd 2021

Gall mentro i fod yn llawrydd fod yn frawychus, ac yn gwbl frawychus hyd yn oed. Os ydych chi'n barod i fentro ond ddim yn gwybod ble i ddechrau, mae gennym ni'r canllaw hwn o awgrymiadau gan gymuned cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

23 Tachwedd 2021

Wendy Sadler MBE (BSc 1994) is the founding Director of science made simple – an award-winning social enterprise that offers science shows to schools and families to inspire the next generation of scientists and engineers. Currently Senior Lecturer in the School of Physics and Astronomy, throughout the pandemic, Wendy has been working on a project called ‘Our Space Our Future’ which aims to increase the number of young people choosing careers in the space industry.

Cwrdd â Phennaeth newydd Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Cwrdd â Phennaeth newydd Ysgol Pensaernïaeth Cymru

26 Hydref 2021

Ym mis Awst 2021, cafodd Dr Juliet Davis ei phenodi yn Bennaeth Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn dilyn bron i ddeng mlynedd yn yr Ysgol. Sawl mis ar ôl dechrau ei swydd newydd, mae'r Athro Davis yn rhannu'r hyn a'i harweiniodd i Gaerdydd, ei blaenoriaethau fel Pennaeth yr Ysgol, a'i huchelgais ar gyfer y dyfodol.

Castell Gwrych: y stori tu ôl i leoliad newydd I’m a Celebrity

Castell Gwrych: y stori tu ôl i leoliad newydd I’m a Celebrity

26 Hydref 2021

Darganfu Mark Baker (MA 2008, PhD 2014) harddwch a chymhlethdod Castell Gwrych yn 11 oed ac mae wedi ymroi llawer o'i fywyd i'w warchod a'i adfer, yn ogystal â chyhoeddi ei lyfr cyntaf amdano yn 13 oed. Mae Mark yn disgrifio sut roedd y castell nid yn unig yn dal ei ddychymyg, ond hefyd llygad cynhyrchwyr ITV o I'm a Celebrity... Get Me Out of Here.

Gwerth gradd yn y dyniaethau – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Gwerth gradd yn y dyniaethau – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

20 Hydref 2021

Tim Edwards (BA 2005, MA 2007) yw Prif Swyddog Marchnata QS Quacquarelli Symonds. Nid oedd llwybr ei yrfa wedi'i bennu ymlaen llaw ac nid oedd ganddo unrhyw syniad beth oedd am ei wneud pan gyrhaeddodd y campws yn fyfyriwr crefydd a diwinyddiaeth. Mae'n esbonio sut gwnaeth astudio gradd yn y dyniaethau gynnig cyfoeth o brofiadau newydd, gyrfa lwyddiannus, a hyder gydol oes yn y sgiliau a ddysgodd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dod yn ôl i Gaerdydd er mwyn helpu i adeiladu ei ddyfodol

Dod yn ôl i Gaerdydd er mwyn helpu i adeiladu ei ddyfodol

28 Medi 2021

Mae James Kelly (MEng 2017) yn gynfyfyriwr peirianneg a aeth o astudio yn adeiladau'r Brifysgol, i adeiladu rhai newydd sbon fel rheolwr adeiladu. Daeth yn ôl rhwng 2019 a 2021 er mwyn helpu i adeiladu 'Abacws', yr adeilad cyfrifiadureg a gwybodeg newydd, ac adeilad mathemateg. Wrth iddo ddychwelyd i'r campws, fe wynebodd heriau ond roedd yn llawn balchder a chyffro.

Rhedwyr Marathon Llundain #TîmCaerdydd yn codi arian i ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd

Rhedwyr Marathon Llundain #TîmCaerdydd yn codi arian i ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd

22 Medi 2021

Marathon Llundain yw un o ddigwyddiadau rhedeg mwyaf poblogaidd y byd ac mae'n codi miliynau i elusennau bob blwyddyn. Ar ôl cael ei ohirio yn 2020, mae'r byd yn fwy awyddus nag erioed i fwynhau’r digwyddiad eleni a gynhelir ddydd Sul 3 Hydref 2021. Gydag ond ychydig o wythnosau ar ôl i hyfforddi, mae rhedwyr #TîmCaerdydd eleni yn ymateb i’r her.

Awgrymiadau gorau gan y podledwyr proffesiynol

Awgrymiadau gorau gan y podledwyr proffesiynol

21 Medi 2021

Mae podledu ym mhobman y dyddiau hyn, gydag unigolion a busnesau fel ei gilydd yn creu tameidiau o sain i wrandawyr eu mwynhau wrth gymudo, cerdded, neu wneud tasgau bob dydd. Mae cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd (wrth gwrs) wedi neidio'n syth i mewn, gan sefydlu eu podlediadau llwyddiannus eu hunain a rhannu'r hyn y maen nhw'n angerddol amdano gyda'r byd. Sut wnaethon nhw hynny? Wel, fe wnaethon ni ofyn iddynt …

Cwrdd â’r Ymchwilydd – Oliver Scourfield (BSc 2018, MSc 2020)

Cwrdd â’r Ymchwilydd – Oliver Scourfield (BSc 2018, MSc 2020)

16 Medi 2021

Mae Oliver Scourfield (BSc 2018, MSc 2020) yn gynorthwyydd ymchwil yn labordy Gallimore/Godkin yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar mesothelioma malaen, math o ganser sy'n effeithio ar yr ysgyfaint. Fel arfer, dod i gysylltiad ag asbestos sy’n achosi’r canser hwn, sy’n angheuol yn y rhan fwyaf o achosion.

Lleoliadau Blas ar Fyd Gwaith: mantais amlwg i unrhyw fusnes

Lleoliadau Blas ar Fyd Gwaith: mantais amlwg i unrhyw fusnes

9 Medi 2021

Cymerodd Beth Addison (BSc 2019) ran mewn Lleoliad Blas ar Fyd Gwaith Prifysgol Caerdydd gyda Microsoft, ac ar ôl wythnos yn unig cafodd awydd i weithio ym maes technoleg. Cafodd ei thywys drwy'r sefydliad gan Arweinydd Addysg Uwch Microsoft a chynfyfyriwr Prifysgol Caerdydd, Elliot Howells (BSc 2016), ac mae hi bellach wedi gweithio am ddwy flynedd fel Arbenigwr Datrysiadau Azure ar gyfer Manwerthu, Ysbyty a Theithio gyda Microsoft.