15 Chwefror 2022
Mae Alexandra Chesterfield (BA 2003 a PGDip 2004) yn cymhwyso gwyddor ymddygiadol i'w gwaith, er mwyn gwella canlyniadau i unigolion, sefydliadau a chymdeithasau. Mae’n Bennaeth Risg Ymddygiad mewn banc llwyddiannus ac yn ddarlithydd gwadd yng Ngholeg yr Iesu Caergrawnt. Mae podlediad newydd Alexandra, Changed My Mind, a'i llyfr, Poles Apart, yn trin a thrafod ac yn mynd i'r afael â'r polareiddio cynyddol sy'n digwydd ledled y byd. Yma mae'n esbonio pam mae hwn yn bwnc mor bwysig, a pham nawr yn fwy nag erioed, mae angen trafod hyn.