Ewch i’r prif gynnwys

Canghennau a grwpiau cynfyfyrwyr

Mae Canghennau a Grwpiau Cynfyfyrwyr yn gyfle i'n cynfyfyrwyr gysylltu, rhwydweithio, datblygu perthnasoedd cryf a rhannu cyfleoedd. Mae ein Canghennau yn helpu o ran cynrychioli Prifysgol Caerdydd yn y lle dan sylw ac maent yn cyd-fynd â’n hamcanion strategol.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i sefydlu Canghennau Cynfyfyrwyr ledled y byd, ac mae cyfres o ddigwyddiadau lansio yn digwydd yn ystod y misoedd nesaf. Dysgu rhagor am ymuno â'n Canghennau sefydledig isod. Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu i ddechrau un yn eich ardal, neu os ydych yn aelod o grŵp o gynfyfyrwyr, ac yr hoffech i’r grŵp hwnnw gael ei gydnabod yn Gangen yn ffurfiol, cysylltwch â ni.

Dod o hyd i Gangen Cynfyfyrwyr

Cyd-Gadeiryddion Canghennau
Angus Scott (BSc 1985) a Gabriel Yomi Dabiri (LLB 2008).

Ymunwch â'n grŵp preifat ar LinkedIni rwydweithio ag aelodau eraill.

Cyd-Gadeiryddion Canghennau
Junaidy Ab-Mutalib (BSc 1996) a Larissa Ann Louis (PgDip 2014).

Ymunwch â'n grŵp preifat ar LinkedIn i rwydweithio ag aelodau eraill.

Chwiliwch am Cardiff中国校友会 ar WeChat i gael y diweddaraf ar y Gangen hon.

Chwiliwch am Cardiff中国校友会 ar WeChat i gael y diweddaraf ar y Gangen hon.

Cyd-Gadeiryddion Canghennau
Vincent Chow (BEng 2018)Lala Au-Yeung (BSc 2018).

Ymunwch â'n grŵp Facebook, cymuned WhatsApp, neu’r grŵp preifat ar LinkedIn i rwydweithio ag aelodau eraill.

Cysylltwch â ni os hoffech helpu i sefydlu'r Gangen hon.

Cysylltwch â ni os hoffech helpu i sefydlu'r Gangen hon.

Cysylltwch â ni os hoffech helpu i sefydlu'r Gangen hon.

Cyd-Gadeiryddion Canghennau
Masahiko Oshiro (BA 2006), Yoshihiko Kanezaki (BA 2005), Shohei Nemoto (MA 2009) ac Yoshiro Hikima (EfUS 2013)

Ymunwch â'n grŵp Facebook, neu’r grŵp preifat ar LinkedIn i rwydweithio ag aelodau eraill.

Sefydlu Cangen Cynfyfyrwyr

Os oes gennych ddiddordeb mewn sefydlu Cangen newydd ar gyfer Cynfyfyrwyr yn eich ardal, darllenwch yr wybodaeth isod. Cysylltwch â ni os oes gennych chi ragor o gwestiynau.

  • Roi cefnogaeth ac arweiniad gan aelod(au) o staff o’r swyddfa
  • Rhestru'r grŵp a nodi’r sawl sy’n ei arwain ar y dudalen we hon
  • Helpu gyda chyhoeddusrwydd ar gyfer digwyddiadau/gweithgareddau – dylid cyflwyno’r holl wybodaeth i swyddfa’r cynfyfyrwyr chwe wythnos cyn y digwyddiad
  • Darparu data sy’n berthnasol i’r lle dan sylw i arweinwyr grwpiau, a hynny at ddibenion llywio cynlluniau o ran gweithgareddau. Bydd dadansoddiad demograffig o’r cynfyfyrwyr hynny rydyn ni’n ymwybodol ohonynt sy’n byw yn y lle dan sylw yn rhan o’r data.
  • Darparu cynlluniau sy’n berthnasol i’r lle dan sylw ar gyfer gweithgareddau’n ymwneud â’r brifysgol, gan gynnwys cyflwyniadau, ymweliadau, ymweliadau recriwtio, fel sy’n berthnasol
  • Dylent sicrhau bod y grŵp yn groesawgar ac yn gynhwysol o ran yr holl drigolion lleol, neu’r cynfyfyrwyr hynny o brifysgol Caerdydd sy’n ymweld â’r lle dan sylw
  • Dylent sicrhau bod aelodau’r grŵp yn gweithredu er lles gorau Prifysgol Caerdydd a’u bod yn llysgenhadon iddi
  • Dylent sicrhau bod y grŵp yn hunangynhaliol yn ariannol. Ni fydd y Brifysgol yn ariannu gweithgareddau grwpiau cynfyfyrwyr fel mater o drefn, megis lleoliadau a chostau arlwyo, ar gyfer digwyddiadau nad ydynt yn cael eu trefnu gan y Brifysgol. Bydd angen i grwpiau ystyried sut y byddant yn ariannu gweithgareddau, ac a ddylid codi tâl aelodaeth a/neu werthu tocynnau ar gyfer digwyddiadau
  • Dylent ystyried gofynion yswiriant a iechyd a diogelwch lleol wrth drefnu digwyddiadau
  • Dylent roi ystyriaeth i offer cyfathrebu grwpiau lleol e.e. LinkedIn, WhatsApp, WeChat, ac ati.
  • Dylent sicrhau bod manylion cyswllt y grŵp sydd ar gael ar wefan y cynfyfyrwyr yn gyfredol, a bod unrhyw blatfformau cyfryngau cymdeithasol a restrir yn cael eu monitro’n rheolaidd
  • Dylent sicrhau bod gweithgareddau grŵp yn cael eu hyrwyddo trwy blatfform rhwydweithio cynfyfyrwyr, Cysylltiad Caerdydd
  • Dylent gyflenwi data o ran cofrestru a phresenoldeb i swyddfa'r cynfyfyrwyr ar ôl pob digwyddiad
  • Dylent sicrhau bod yr holl ddata yn cael ei drin mewn modd diogel, yn unol â rheoliadau diogelu data

Ymunwch â grŵp Facebook

Mae miloedd o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn aelodau o'n grwpiau Facebook. Mae'n le gwych i rannu atgofion, dod o hyd i hen ffrindiau a rhannu eich newyddion.

Pan fyddwch yn gwneud cais i ymuno, gofynnir ambell i gwestiwn syml er mwyn gwirio pwy ydych chi. Gofynnwn i bob aelod barchu rheolau’r grŵp.