Gwasanaeth Coffa Prifysgol Caerdydd 2020
Gwasanaeth Coffa Prifysgol Caerdydd 2020
Mae’n draddodiad gennym yn y Brifysgol i ddangos ein parch at gyn-staff neu gynfyfyrwyr a gollodd eu bywydau dros eu gwlad yn ystod y ddau Ryfel Byd ac mewn rhyfeloedd eraill.
Bydd Diwrnod y Cadoediad ddydd Mercher, 11 Tachwedd 2020, a gwahoddir staff, myfyrwyr, cynfyfyrwyr a’r cyhoedd i wylio Gwasanaeth Coffa’r Brifysgol ar-lein a chymryd rhan yn y Dwy Funud o Ddistawrwydd a ddarlledir o 10:55am drwy’r ddolen ganlynol Gwasanaeth Coffa 2020.
Arweinir y gwasanaeth gan yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan, y Caplan Cydlynu, y Parchedig Delyth Liddell, a Chaplaniaeth Aml-ffydd y Brifysgol.
Cysylltwch, tyfwch eich rhwydwaith proffesiynol, a chefnogwch fyfyrwyr a chynfyfyrwyr eraill. Cysylltu Caerdydd yw’r lle i ddod o hyd i gyfleoedd newydd a manteisio ar gymuned fyd-eang cynfyfyrwyr Caerdydd.