HEAR
Ar gyfer cynfyfyrwyr is-raddedig ac ôl-raddedig a raddiodd ers Gorffennaf 2017, mae HEAR yn cynnig un cofnod digidol cynhwysfawr am ddim sy'n eich galluogi i gyflwyno eich llwyddiannau'n ddigidol i gyflogwyr a thiwtoriaid ôl-raddedig.
Os gwnaethoch raddio cyn Gorffennaf 2017, ewch i’n tudalen cais am sgriptiau a thrawsgrifiadau.
Nid yw HEAR yn cymryd lle CV. Ond bydd yn ategu ac yn cefnogi eich CV, ac o bosibl gall wella eich cyflogadwyedd neu gyfleoedd i astudio ymhellach.
Beth sy'n cael ei gofnodi
Mae HEAR yn dangos yr holl fodiwlau rydych chi wedi'u hastudio yn ystod eich astudiaethau israddedig neu ôl-raddedig. Gall hyn gynnwys rhai modiwlau nad oedd yn cyfrannu at eich marc terfynol, gan gynnwys unrhyw fodiwlau a fethwyd neu sydd wedi'u hailsefyll.
Bydd yn cyd-fynd â'ch tystysgrif gradd, gan ddarparu:
- cofnod academaidd digidol awdurdodedig manwl o'r modiwlau a astudiwyd a'r marciau
- cofnod academaidd digidol awdurdodedig manwl o gyflawniadau ychwanegol cydnabyddedig, Prifysgol Caerdydd, fel gwirfoddoli neu rolau cynrychioli, gwobrau Prifysgol ychwanegol, a/neu wobrau academaidd neu broffesiynol
- symudiad at lif mwy penodol ar-lein o wybodaeth am fyfyrwyr.
Bydd popeth a gofnodir ar HEAR, gan gynnwys eich llwyddiannau academaidd ac allgyrsiol fel gwobrau a dyfarniadau, wedi'u dilysu gennym ni, felly gall unrhyw un y byddwch yn ei rannu gyda nhw fod yn hyderus fod yr holl fanylion yn gywir ac wedi'u cymeradwyo gan y Brifysgol.
Rhannu eich HEAR
Dim ond yn ei ffurf ddigidol (ar-lein) y mae HEAR yn ddogfen ddilys, ac nid wedi'i argraffu.
Cewch roi caniatâd i ddarpar gyflogwyr neu ddarparwyr astudiaethau pellach weld eich cofnod HEAR o gyflawniadau sydd wedi'u dilysu'n llawn.
At ddibenion diogelwch, nid oes modd i chi lawrlwytho’r dogfennau. Er mwyn rhannu eich dogfennau, bydd angen i chi gyrchu’r adran ‘Cysylltiadau’ ar eich Dangosfwrdd drwy glicio ar y botwm Rheoli. Ar ôl gwneud hynny, byddwch yn gallu caniatáu i drydydd partïon, fel cyflogwyr, llysgenadaethau neu sefydliadau addysg uwch, weld eich e-Ddogfennau.
Ni fydd eich HEAR byth yn dod i ben. Ar ôl i chi raddio, caiff ei gwblhau a bydd ar gael i chi am gyfnod amhenodol.
Os byddwch yn aros ym Mhrifysgol Caerdydd neu'n mynd i rywle arall i ddilyn gradd Meistr neu gymhwyster arall, byddwch yn derbyn HEAR newydd ar gyfer y cwrs hwnnw.