Arolwg Deilliannau Graddedigion
Arolwg statudol, cenedlaethol a reolir gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) yw'r arolwg Hynt Graddedigion.
Mae'r arolwg yn casglu gwybodaeth am beth mae graddedigion yn ei wneud bymtheg mis ar ôl i'w cyrsiau ddod i ben. Bydd yr holl raddedigion a gwblhaodd gwrs yn cael ebost a neges destun (rhifau symudol y DU) i’w gwahodd i lenwi’r arolwg ar-lein. Os na fyddant yn ei gwblhau ar-lein, bydd IFF Research, yn gweithio ar ran HESA a'u prifysgol, yn cysylltu â nhw dros y ffôn.
Bydd eich ymatebion nid yn unig yn helpu myfyrwyr cyfredol ac yn y dyfodol i gael cipolwg gwerthfawr ar gyrchfannau gyrfa, byddant hefyd yn ein helpu i werthuso a hyrwyddo ein cyrsiau a hybu enw da graddedigion Caerdydd, fel chi, ymhlith cyflogwyr.
Mae'r arolwg o arwyddocâd cenedlaethol hefyd gan ei fod yn galluogi llunwyr polisïau, elusennau, newyddiadurwyr, ymchwilwyr ac eraill i ddeall y sector addysg uwch a chyflwr y farchnad lafur i raddedigion.
Rhagor o wybodaeth
Mae’r wybodaeth yn arolwg Hynt Graddedigion HESA i'w gweld yma
Mae gwybodaeth am sut mae Prifysgol Caerdydd yn defnyddio eich data personol ar gael yma
Byddem wrth ein bodd yn clywed am daith eich bywyd ers eich amser ym Mhrifysgol Caerdydd. Rhannwch eich hoff atgof, taith eich gyrfa neu’r cyngor y byddech yn ei roi o wybod yr hyn rydych yn ei wybod nawr!