Ewch i’r prif gynnwys

Dewch o hyd i fentor

Mynnwch gyngor, adeiladwch eich rhwydwaith a darganfyddwch fwy am y llwybr gyrfa rydych chi am ei ddilyn trwy ddod o hyd i fentor o'n cymuned cyn-fyfyrwyr.

Mentora anffurfiol

Mae dod o hyd i fentor yn gyflym ac yn hawdd trwy ein platfform rhwydweithio ar-lein, Cysylltiad Caerdydd. Gallwch chwilio yn ôl diwydiant, lleoliad, neu’r pwnc a astudir, a bydd y platfform yn awgrymu mentoriaid sydd wedi dweud eu bod yn 'Barod i helpu'. Mae nodweddion allweddol mentora Cysylltiad Caerdydd yn cynnwys:

  • mentora anffurfiol
  • cyn-fyfyrwyr i gyn-fyfyrwyr
  • ar-lein
  • hyblyg o ran hyd ac amseru
  • lleoedd anghyfyngedig

Mae dod o hyd i fentor yn ffordd wych o adeiladu eich rhwydwaith a dysgu mwy am rôl, cwmni neu ddiwydiant penodol.

Menywod yn Mentora

Bob mis Mawrth, rydym yn dod â grŵp o fentoriaid sy’n gyn-fyfyrwyr llwyddiannus at ei gilydd – gyda'r nod o ysbrydoli a grymuso'r genhedlaeth nesaf o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Dyma eich cyfle i gysylltu â menywod llwyddiannus a medrus ac elwa ar eu profiad a'u harbenigedd gwerthfawr.

Gallwch ddefnyddio'r cyfle hwn i ddatblygu eich gyrfa, creu rhwydweithiau, gofyn cwestiynau a chael gwybodaeth am ddiwydiant penodol. Mae lleoedd bob blwyddyn ar gyfer y rhaglen fentora unigryw hon yn gyfyngedig, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru eich diddordeb yn gynnar. Mae rhaglen Menywod yn Mentora yn gyfle traws-gynhwysol. Mae nodweddion allweddol y rhaglen Menywod yn Mentora yn cynnwys:

  • fflach-fentora
  • cyn-fyfyrwyr i gyn-fyfyrwyr
  • ar-lein
  • 4 wythnos yn ystod mis Mawrth
  • lleoedd cyfyngedig

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y rhaglen Menywod yn Mentora nesaf, e-bostiwch alumni@caerdydd.ac.uk.