Cysylltiad Caerdydd

Cysylltiad Caerdydd yw'r platfform rhwydweithio ar gyfer ein cymuned o gyn-fyfyrwyr.
Mae miloedd o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn barod i gynnig cymorth, cyngor, gwneud cyflwyniadau neu ateb cwestiynau. Gallwch ddod o hyd i fentor neu gynnig eich cymorth, dod o hyd i swyddi neu eu postio, rhannu digwyddiadau a chyfleoedd, ac ailgysylltu â hen gyd-ddisgyblion.
Mae cofrestu’n gyflym ac yn hawdd, a gallwch gysylltu eich cyfrif LinkedIn i greu eich proffil ar unwaith.
Mae Canghennau a Grwpiau Cynfyfyrwyr yn gyfle i'n cynfyfyrwyr gysylltu, rhwydweithio, datblygu perthnasoedd cryf a rhannu cyfleoedd.