Ewch i’r prif gynnwys

Cyngor ar yrfaoedd gan gynfyfyrwyr

Manteisio ar ddoethineb a gwybodaeth eich cymuned o gynfyfyrwyr am yrfaoedd.

Mae ein cyfres blogiau 'Bossing It' yn dwyn ynghyd gyngor ar yrfaoedd gan ystod o gynfyfyrwyr. Mae cynfyfyrwyr llwyddiannus yn rhannu eu profiadau ym mhob rhifyn i helpu cenhedlaeth nesaf cynfyfyrwyr Caerdydd. Mae'r rhain yn cynnwys awgrymiadau ymarferol ar gyfweliadau a CVs, blas ar fyd gwaith, ac ati.

Hoffech chi gyfrannu?
Os hoffech chi gyfrannu at rifyn o Bossing It yn y dyfodol neu os oes gennych chi syniad am bwnc, anfonwch neges atom, a sôn ychydig am hanes eich gyrfa.

Cael eich troed yn y drws – Bossing It

Cael eich troed yn y drws – Bossing It

23 Mai 2022

Gall dechrau yn y 'byd go iawn' ar ôl graddio ymddangos yn frawychus, a chanfod (a sicrhau) y swydd berffaith honno, yn dasg amhosibl. Rydym wedi siarad â chynfyfyrwyr o Gaerdydd sy'n dechrau ar eu gwaith o lywio llwybr eu gyrfa fel graddedigion newydd. Dyma eu cynghorion ar gyfer cael eich troed yn y drws...

Eich llwybr at hyder gyrfaol – Bossing It

Eich llwybr at hyder gyrfaol – Bossing It

24 Mawrth 2022

Yn y farchnad swyddi gystadleuol, a’r byd cyflym sydd ohoni heddiw, mae hunan-gred yn bwysicach nag erioed. Yn aml, gall deimlo fel petai gan gydweithwyr, cyfoedion a'r rhai yr ydym yn eu hedmygu yn ein diwydiannau, beth wmbreth ohono, ond ydi hynny'n wir mewn gwirionedd? Fe fuom yn siarad â rhai o'n cynfyfyrwyr llwyddiannus am hyder o ran gyrfa, a gofynnwyd iddyn nhw rannu eu hawgrymiadau a'u triciau ar gyfer teimlo'n ddi-ofn a bod yn feiddgar yn eich gyrfa.

Awgrymiadau ar gyfer adnewyddu eich CV — Bossing It

Awgrymiadau ar gyfer adnewyddu eich CV — Bossing It

26 Ionawr 2022

P'un a ydych yn dechrau CV o'r newydd neu'n rhoi sglein newydd ar hen un, mae cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yma i helpu. Cewch wybod beth mae ein harbenigwyr ym maes recriwtio ac Adnoddau Dynol yn ei argymell ar gyfer creu CV trawiadol yn y byd cystadleuol sydd ohoni.

Canllaw i gynfyfyrwyr ar ddechrau eich gyrfa lawrydd – Bossing It

Canllaw i gynfyfyrwyr ar ddechrau eich gyrfa lawrydd – Bossing It

23 Tachwedd 2021

Gall mentro i fod yn llawrydd fod yn frawychus, ac yn gwbl frawychus hyd yn oed. Os ydych chi'n barod i fentro ond ddim yn gwybod ble i ddechrau, mae gennym ni'r canllaw hwn o awgrymiadau gan gymuned cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Awgrymiadau gorau gan y podledwyr proffesiynol

Awgrymiadau gorau gan y podledwyr proffesiynol

21 Medi 2021

Mae podledu ym mhobman y dyddiau hyn, gydag unigolion a busnesau fel ei gilydd yn creu tameidiau o sain i wrandawyr eu mwynhau wrth gymudo, cerdded, neu wneud tasgau bob dydd. Mae cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd (wrth gwrs) wedi neidio'n syth i mewn, gan sefydlu eu podlediadau llwyddiannus eu hunain a rhannu'r hyn y maen nhw'n angerddol amdano gyda'r byd. Sut wnaethon nhw hynny? Wel, fe wnaethon ni ofyn iddynt …