Ewch i’r prif gynnwys

Cyngor ar yrfaoedd gan gynfyfyrwyr

Manteisio ar ddoethineb a gwybodaeth eich cymuned o gynfyfyrwyr am yrfaoedd.

Mae ein cyfres blogiau 'Bossing It' yn dwyn ynghyd gyngor ar yrfaoedd gan ystod o gynfyfyrwyr. Mae cynfyfyrwyr llwyddiannus yn rhannu eu profiadau ym mhob rhifyn i helpu cenhedlaeth nesaf cynfyfyrwyr Caerdydd. Mae'r rhain yn cynnwys awgrymiadau ymarferol ar gyfweliadau a CVs, blas ar fyd gwaith, ac ati.

Hoffech chi gyfrannu?
Os hoffech chi gyfrannu at rifyn o Bossing It yn y dyfodol neu os oes gennych chi syniad am bwnc, anfonwch neges atom, a sôn ychydig am hanes eich gyrfa.

Cefnogi niwroamrywiaeth yn y gweithle – Bossing It

Cefnogi niwroamrywiaeth yn y gweithle – Bossing It

26 Mehefin 2024

Gall amgylchedd niwrogynhwysol roi'r cymorth sydd ei angen ar staff i lwyddo, gwella lles a chynhyrchiant a rhoi gwerthoedd cwmniau pwysig ar waith. Fe wnaethon ni ofyn i’n cyn-fyfyrwyr arbenigol am eu cyngor ar sut i rymuso a bod yn gynghreiriad i gydweithwyr niwroamrywiol yn eich gweithle.

Awgrymiadau gwych cyn dechrau eich prosiect creadigol – Bossing It

Awgrymiadau gwych cyn dechrau eich prosiect creadigol – Bossing It

25 Ebrill 2024

Gall prosiectau creadigol ddysgu sgiliau newydd, agor drysau newydd a rhoi rhagor o amser gwerthfawr ichi ganolbwyntio ar eich diddordebau personol. P'un a ydych chi'n dymuno troi hobi’n yrfa neu ddod â syniadau'n fyw yn eich amser hamdden, gall ychydig o arweiniad eich rhoi ar ben eich ffordd. Gofynnon ni i rai o'n cyn-fyfyrwyr gwych sydd wedi gweithio ar ystod o brosiectau - o gylchgronau i bodlediadau - i rannu eu hawgrymiadau mwyaf defnyddiol.

Gwybod beth hoffech chi ei wneud ar ôl tyfu i fyny – Bossing It 

Gwybod beth hoffech chi ei wneud ar ôl tyfu i fyny – Bossing It 

15 Mawrth 2024

‘Beth hoffech chi ei wneud ar ôl tyfu i fyny?’ Mae hwn yn gwestiwn a ofynnir yn aml i blant, ond tra bod rhai yn cyflawni dyheadau eu plentyndod, efallai bod eraill yn dal i chwilio am eu swydd ddelfrydol pan yn oedolyn ac ni ddylai hynny fod yn dabŵ! Cawsom sgwrs gyda rhai o'ncyn-fyfyrwyr anhygoel am y cwestiwn oesol hwn.

Sut i lwyddo yn eich cyfweliad nesaf – Bossing It

Sut i lwyddo yn eich cyfweliad nesaf – Bossing It

27 Hydref 2023

Gwych — rydych chi wedi cael gwahoddiad i gyfweliad am swydd newydd a chyffrous, ond beth nesaf!? Yn aml, bydd aros am gyfweliad yn gallu codi braw ar rywun, ond drwy baratoi’n effeithiol amdano, byddwch chi’n dawel eich meddwl wrth wybod y gallech fynd i'r afael ag ef yn llawn hyder. Cawson ni sgwrs gyda rhai o'n cyn-fyfyrwyr gwych, ac maen nhw wedi rhannu awgrymiadau da iawn ar sut i lwyddo yn eich cyfweliad nesaf.

Pŵer sgiliau trosglwyddadwy – Bossing It

Pŵer sgiliau trosglwyddadwy – Bossing It

27 Mehefin 2023

Gall datblygu sgiliau trosglwyddadwy fod yn amhrisiadwy i'ch dilyniant, boed hynny drwy wirfoddoli, profiad personol neu drwy eich astudiaethau prifysgol. Buom yn siarad ag aelodau o’n cymuned anhygoel o gynfyfyrwyr sydd wedi rhannu eu doethineb ynghylch sut y gall y sgiliau hyn fod o fudd i chi wrth ddechrau ar eich gyrfa.

Menywod yn Arwain – Bossing It

Menywod yn Arwain – Bossing It

28 Ebrill 2023

Buom yn siarad yn ddiweddar â rhai o’n harweinwyr benywaidd llwyddiannus o gymuned cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Gwnaethant rannu ychydig y gyngor y bydden nhw'n ei roi i'w hunain pan yn iau.

Cymryd seibiant yn eich gyrfa – Bossing It

Cymryd seibiant yn eich gyrfa – Bossing It

24 Ionawr 2023

Mae cymryd seibiant gyrfa yn rhywbeth y bydd llawer ohonom yn ei wneud yn ystod ein bywydau ac mae'n rhywbeth i fod yn falch ohono. Mae yna lawer o resymau dros gymryd seibiant gyrfa - boed hynny er mwyn datblygu eich sgiliau proffesiynol, cymryd amser i’w dreulio gyda'r teulu, neu i fachu profiadau newydd. Cawsom sgwrs â rhai o'n cymuned o gynfyfyrwyr sydd wedi rhannu eu cyngor ar fanteision seibiant gyrfa, a sut i fanteisio i'r eithaf ar eich amser.

Cromlin ddysgu dechrau busnes – Bossing It

Cromlin ddysgu dechrau busnes – Bossing It

22 Tachwedd 2022

Gall sefydlu busnes o'r newydd fod yn heriol. Felly gall dysgu o'ch taith eich hun yn ogystal â rhai pobl eraill fod yn hanfodol i sicrhau bod eich menter yn llwyddiant. Cawsom sgwrs â rhai o'n cyn-fyfyrwyr gwybodus sydd wedi rhannu eu cyngor ar gychwyn eich busnes newydd.

Newid llwybr yn eich gyrfa – Bossing It

Newid llwybr yn eich gyrfa – Bossing It

30 Medi 2022

Gall newid gyrfa fod yn frawychus, ond hefyd yn hynod werth chweil. Cawsom sgwrs gyda rhai o'n cynfyfyrwyr sydd wedi cymryd y cam mawr i lwybr gyrfa hollol newydd.

Hyrwyddo eich hun – Bossing It

Hyrwyddo eich hun – Bossing It

29 Gorffennaf 2022

Rydym wedi siarad â rhai o'n graddedigion llwyddiannus sydd wedi rhoi eu cynghorion gorau ynghylch pam ei fod yn beth cadarnhaol i 'frolio eich hunain'!