Cyfleoedd hyfforddiant
Mae ein cyrsiau a’n rhaglenni hyfforddiant pwrpasol yn helpu ymchwilwyr i ddatblygu eu gwaith drwy ddefnyddio uwchgyfrifiadur.
Cyrsiau
Rydym yn cynnig cyrsiau mewn cyfrifiadura ymchwil uwch. Mae’r sesiynau’n cynnwys:
- ARC: Cyfrifiadura Ymchwil Uwch ym Mhrifysgol Caerdydd
- ARC: Cyflwyniad i Linux gyda Llinell Orchymyn (a Windows)
- ARC: Cyflwyniad i Sgriptio Cragen Linux
- ARC: Uwchgyfrifiadura i Ddechreuwyr
- SLURM - Pynciau Uwch
- ARC: Cyflwyniad i Raglennu Cyfochrog gan Ddefnyddio OpenMP a Rhyngwyneb Trosglwyddo Negeseuon (‘Message Passing Interface’ neu MPI)
- ARC: Cyflwyniad i Python.
- NVIDIA DLI: Egwyddorion Sylfaenol Cyfrifiadura Cyflymedig gyda Python CUDA
- ARC: Cyflwyniad i Raglenni Dysgu Peiriannol
- ARC: Cyflwyniad i gynwysyddion a Singularity
- ARC: Cyflwyniad i'r adnodd llif gwaith NextFlow
Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant pwrpasol i gefnogi eich gofynion ymchwil penodol. Cysylltwch â’r tîm i gael manylion: