Cyfrifiadura ymchwil
Cyflymwch eich ymchwil â thechnolegau prosesu blaengar.
Rydym yn buddsoddi yn y technolegau diweddaraf i gyflwyno dadansoddiadau cyflym ar gyfer cyfrifiadura ymchwil. Gall ein systemau eich helpu gyda:
- thrin meintiau mawr o wybodaeth ystadegol
- trin a lledaenu setiau data enfawr
- gwneud niferoedd uchel o gyfrifiadau ar yr un pryd
- delweddu ffeiliau mawr
- paru ac adnabod patrymau cymhleth neu fawr eu graddfa.
Mae ein clwstwr Hawk yn gweithredu ar Linux ac yn cefnogi ystod eang o opsiynau meddalwedd, gan gynnwys crynoyddion, pyrth gwe, llyfrgelloedd mathemateg, dadfygwyr/proffilwyr rhaglenni a phecynnau ymchwil.
Hefyd, gallwn ni osod meddalwedd fasnachol ac agored ei chôd sy’n bodloni gofynion trwyddedu.
Nid yw’r gwasanaeth hwn yn cynnwys gwneud copi wrth gefn o ddata defnyddwyr. Os oes angen copi wrth gefn arnoch, cysylltwch â thîm ARCCA.
Gofynnwch i’n harbenigwyr
Rydym wrth law i helpu i gyflymu eich ymchwil:
Uwch-gyfrifiadura ar gyfer Ymchwil
Related projects
Mae ein prosiectau datblygu yn cyflwyno cyfrifiadura perfformiad uchel i raglenni ymchwil newydd.