Cyngor arbenigol
Yn aml, mae cyfrifiadura ymchwil blaengar yn ysgogi cyfleoedd am ymchwil arloesol a rhyngddisgyblaethol.
Mae’r technegau hyn yn cael eu defnyddio fwyfwy ar draws y sbectrwm cyfan o ddisgyblaethau ymchwil gan gynnwys y gwyddorau biofeddygol a bywyd, y gwyddorau cymdeithasol, y celfyddydau a’r dyniaethau, yn ogystal â’r gwyddorau ffisegol a pheirianneg.
Rydym wedi agor drysau at dechnegau ymchwil newydd megis:
- efelychiadau o darddiad ac esblygiad sêr a galaethau
- dilyniannu genynnol
- efelychiadau meddygol a deintyddol
- darlunio delweddau mawr neu gymhleth wedi’u sganio.
Rydym yn hyrwyddo lledaenu gwybodaeth a chyd-weithio drwy:
- gael mynediad o bell at gronfeydd data ymchwil mawr
- fideo-gynadledda rhad dros y we
- dadansoddi data ar y cyd yn fyd-eang.
Mae ein gwaith ar feysydd ymchwil rhyngddisgyblaethol yn cynnwys:
- efelychiadau mantell daear a hylif
- rhagolygu economaidd
- modelu moleciwlau a phroteinau.
Gofynnwch i’n harbenigwyr
Os oes gennych syniad yr ydych yn credu y byddai’n elwa ar gyfrifiadura ymchwil blaenllaw, ond nid ydych yn siŵr sut i fynd amdani, cysylltwch â ni.
Uwch-gyfrifiadura ar gyfer Ymchwil
Ymrestrwch ar gyfer cwrs, neu gofynnwch am hyfforddiant pwrpasol er mwyn manteisio i'r eithaf ar Gyfrifiadura Perfformiad Uchel.