Storio data
Gallwn helpu i ddiwallu eich anghenion o ran storio a rheoli data.
Gallwn gynnig dull storio y gellir ei ehangu i gefnogi ein gwasanaethau cyfrifiadurol, naill ai fel cronfa bwrpasol neu drwy weithio ar y cyd â rhaglen Data a Rheoli Gwybodaeth y Brifysgol, sydd hefyd yn canolbwyntio ar agweddau archifo a chadw mwy hirdymor.
Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig storfa ar sail dull blociau adeiladu arloesol, sy’n galluogi dull storio data y gellir ei ehangu sy’n hygyrch, yn agos i’r cyfrifiadura, ar gyfer ystod o ddisgyblaethau.
Mae’r ‘seilwaith y gellir ei blygio’ hwn yn cefnogi’r nodweddion allweddol canlynol:
- ateb wedi’i gefnogi a’i reoli’n llawn
- gellir ei ehangu’n rhwydd
- yn cynnwys dull rheoli hunaniaeth wedi’i ganoli
- yn cynnwys gwydnwch gwefannau.
Mae’r ateb hyblyg hwn yn mynd i’r afael â heriau i ymchwil data-ddwys o ran storio, gan alluogi ehangiad pan fo angen.
Gofynnwch i’n harbenigwyr
Cysylltwch â ni i drafod sut gallwn helpu gyda’ch anghenion storio data:
Uwch-gyfrifiadura ar gyfer Ymchwil
Prosiectau cysylltiedig
Mae ein prosiectau datblygu yn cyflwyno cyfrifiadura perfformiad uchel i raglenni ymchwil newydd.