Dadansoddi Data a Deallusrwydd Artiffisial (AI)
Trwy ddefnyddio ‘Hawk’ yr Uwchgyfrifiadur, mae ymchwilwyr yn gallu manteisio ar gyfleoedd a ddarperir gan y twf mewn dadansoddeg data, Deallusrwydd Artiffisial (AI) a Dysgu Peirianyddol (ML). Mae Hawk yn cynnig mynediad at raniadau Unedau Prosesu Graffigol (GPU) sy'n cynnwys nodau Nvidia V100 a P100 GPU ar gyfer y trwygyrch uchel sydd ei angen ar raglenni megis MatLab, PyTorch a TensorFlow.
Mae Hawk hefyd yn cefnogi offer rhyngweithiol trwy ddefnyddio Open OnDemand. Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu rhyngwyneb gwe i ddefnyddio'r cyfleusterau uwchgyfrifiadura ac yn sicrhau bod offer ar gael, megis Byrddau Gwaith o Bell ar gyfer sesiynau rhyngweithiol, Rstudio Server, rhyngwyneb cyfarwydd i ddefnyddio iaith raglennu R, a Jupyter) sef cyfres o lyfrau nodiadau ar ryngwyneb cyffredin i ddefnyddio Python ac ieithoedd rhaglennu eraill. Mae mynediad at y canlynol hefyd ar gael trwy'r gwasanaeth hwn: cragen Linux, monitro swyddi, a throsglwyddo ffeiliau.
Gofynnwch i’n harbenigwyr
Os hoffech chi gael gwybodaeth bellach ar unrhyw wasanaethau cymorth sydd ar gael drwy ARCCA, cysylltwch ar bob cyfrif.