Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Rydym yn cynnig gwasanaethau cyfrifiadura perfformiad uchel i ymchwilwyr sydd angen pŵer cyfrifiadurol ychwanegol i ddatrys problemau cymhleth.

Rydym hefyd yn gweithio gyda chleientiaid a phartneriaid y tu allan i'r Brifysgol drwy wneud amrywiaeth o weithgareddau allgymorth, ac yn chwarae rhan allweddol yn HPC Cymru, sy'n galluogi busnesau ac academyddion ledled Cymru i ddefnyddio Cyfrifiadura Perfformiad Uchel.

Mae ein tîm ar gael i'ch cynorthwyo â'ch anghenion ymchwil drwy amrywiaeth o wasanaethau. Rydym hefyd yn cynnig cyngor, arweiniad a hyfforddiant arbenigol ynglŷn â sut i ddefnyddio'r cyfleusterau.

Rydym yn cynnig offer ac adnoddau uwch-gyfrifiadura, gan gynnwys efelychu a modelu cyfrifiadurol, trin a storio setiau data mawr, a llawer o ddulliau eraill i ddatrys problemau ymchwil a fyddai fel arall yn anymarferol.

Rheolwyr

Picture of Mark Einon

Dr Mark Einon

Peiriannydd Meddalwedd Ymchwil

Email
EinonM@caerdydd.ac.uk
Picture of Martyn Guest

Dr Martyn Guest

Cyfarwyddwr Cyfrifiadura Ymchwil Uwch

Telephone
+44 29208 79319
Email
GuestMF@caerdydd.ac.uk
Picture of Jonathan Lockley

Dr Jonathan Lockley

Cyfarwyddwr Cyfrifiadura Ymchwil Uwch

Email
LockleyJ1@caerdydd.ac.uk

Llywodraethu

Grŵp Goruchwylio ARCCA a Grŵp Gweithredol a Defnyddwyr ARCCA sy'n ein llywodraethu.

Mae Grŵp Goruchwylio ARCCA yn cynnwys staff academaidd uwch sy'n rhoi cyfeiriad strategol i ddatblygiadau cyfrifiadura perfformiad uchel ym Mhrifysgol Caerdydd. Maent yn sicrhau bod ein blaenoriaethau'n cyd-fynd â gofynion y gymuned ymchwil a strategaethau ehangach y brifysgol.

Mae Grŵp Gweithredol a Defnyddwyr ARCCA yn rhoi cyngor ac arweiniad ynglŷn ag anghenion a gofynion defnyddwyr yn y gymuned ymchwil. Daw aelodau'r grŵp o Ysgolion o bob rhan o Brifysgol Caerdydd sy'n cynrychioli ystod eang o ddisgyblaethau ymchwil.