Ewch i’r prif gynnwys

Cynllun ffioedd a mynediad

O dan Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, mae’n ofynnol i ni ddatblygu cynllun ffioedd a mynediad bob blwyddyn a buddsoddi cyfran o’r incwm ffioedd israddedig ar waith cynllun ffioedd a mynediad.

Mae ein cynllun ffioedd a mynediad yn nodi’r gweithgareddau y byddwn yn eu cyflawni i sicrhau cyfle cyfartal a mynediad teg i grwpiau a dangynrychiolir mewn addysg uwch, a’u cefnogi i gyflawni canlyniadau llwyddiannus. Mae hyn yn cynnwys mesurau i ddenu ceisiadau gan fyfyrwyr o grwpiau a dangynrychiolir a’u cadw.

Mae manylion ar y cynllun ynghylch sut y byddwn yn parhau i ddarparu addysg uwch, gan gynnwys darpariaeth Gymraeg, i’r holl fyfyrwyr israddedig trwy wella profiad y myfyrwyr a chyflogadwyedd.

Crynodeb o'r cynllun ffioedd a mynediad

Er mwyn hyrwyddo cyfle cyfartal, ehangu mynediad at addysg uwch, cynyddu dysgu drwy'r Gymraeg a gwella deilliannau ar gyfer grwpiau a dangynrychiolir a myfyrwyr sy'n agored i niwed, byddwn yn:

  1. Codi dyheadau a chynyddu mynediad at AU ymhlith grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
  2. Sicrhau bod cyfraddau parhad grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn unol â gweddill poblogaeth y myfyrwyr.
  3. Cynyddu nifer y myfyrwyr sy'n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg trwy wella cymuned, diwylliant a darpariaeth Cymraeg y Brifysgol.
  4. Gwella cyflogadwyedd myfyrwyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Er mwyn hyrwyddo addysg uwch, gwella ymgysylltu dinesig, sicrhau dysgu ac addysgu o safon uchel a chefnogi llais y myfyriwr a chyflogadwyedd graddedigion, byddwn yn:

  1. Parhau i ganolbwyntio ar ymgysylltu byd-eang, cymunedol a dinesig sy'n effeithiol ac o ansawdd uchel.
  2. Darparu amgylchedd dysgu ac addysgu o ansawdd uchel.
  3. Canolbwyntio ar wella sy'n gwella profiad y myfyrwyr.
  4. Parhau i gynnig cwricwla a chyfleoedd ehangach i ehangu cyflogadwyedd myfyrwyr.

Lawrlwytho ein cynlluniau presennol

Cafodd newidiadau i’n Cynllun Ffioedd a Mynediad 2023-25 ​​a 2025-27 (FAP) eu cymeradwyo gan Medr ar 25 Medi 2024. Rydyn ni wedi gwneud newidiadau i'n Cynlluniau Ffioedd a Mynediad er mwyn cywiro gwall ffeithiol yn Adran 1 o'r Cynllun. Cyn i CCAUC gymeradwyo hyn oll, cafodd y newidiadau i'r Cynllun Ffioedd a Mynediad eu trafod gyda chynrychiolwyr myfyrwyr a’u cytuno gan Gadeirydd Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau’r Brifysgol, a hynny drwy gamau gweithredu’r Cadeirydd ac o dan awdurdod dirprwyedig gan y Cyngor.

Cafodd newidiadau cynharach i Gynllun 2023-25 ​eu cymeradwyo ​gan CCAUC ar 25 Ebrill 2024. Cafodd newidiadau i lefelau’r ffioedd dysgu eu gwneud yn Adran 1 o’r Cynllun Ffioedd a Mynediad, yn sgil newid i bolisi Llywodraeth Cymru. Mae’r newid hwnnw’n cadarnhau y bydd y cap ar ffioedd dysgu (uchafswm y ffioedd dysgu y gall darparwyr rheoleiddiedig ei godi ar fyfyrwyr penodol ar gyrsiau israddedig amser llawn) yn cynyddu. Mae’r cynnydd hwn yn y cap ar ffioedd dysgu yn golygu y gall prifysgolion Cymru godi’r un lefel o ffioedd y mae darparwyr addysg uwch yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban yn eu codi ers 2017. Cyn i CCAUC gymeradwyo hyn oll, bu i Bwyllgor Cyllid ac Adnoddau'r Brifysgol gytuno ar y newidiadau i'r Cynllun Ffioedd a Mynediad, a hynny o dan awdurdod dirprwyedig gan y Cyngor.

Cynllun ffioedd a mynediad 2025-27

Cyflwyno Cynllun Ffioedd a Mynediad i CCAUC.

I ofyn am fersiynau cynharach Cynllun Ffioedd a Mynediad 2023-25 neu 2025-27, neu ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill am Gynllun Ffioedd a Mynediad y Brifysgol, cysylltwch â strategicplanning@caerdydd.ac.uk

Cynlluniau o’r blynyddoedd blaenorol

Lawrlwythwch ein cynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd gan CCAUC o’r blynyddoedd blaenorol: