Trio Sci Cymru
Menter newydd gan Lywodraeth Cymru i roi hwb i bynciau STEM yng Nghymru.
Byddwn yn gweithio gyda myfyrwyr ysgol ar draws Cymoedd de Cymru i gyflwyno raglenni allgymorth STEM arloesol.
Mae Trio Sci Cymru yn cael ei arwain gan Academi Wyddoniaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad a phrifysgolion Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor. Mae'n cael ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop ac Academi Wyddoniaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru.
Dros gyfnod o dair blynedd, byddwn yn ymgysylltu â 2,790 o ddisgyblion cyfnod allweddol 3, gan gynnig cyfle unigryw iddynt gymryd rhan mewn tair rhaglen arloesol cyfoethogi STEM.
Prosiectau
Gwenyn apothecari
Bydd y prosiect, o dan arweiniad yr Athro Les Baillie o'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, yn cyflwyno disgyblion i raglen hynod lwyddiannus Pharmabees. Byddant yn dysgu am bwysigrwydd gwenyn a pheillwyr eraill, eiddo meddyginiaethol mêl a'i botensial i drin archfygiau ysbyty sy'n gwrthsefyll gwrthfiotigau.
Bydd disgyblion ym Mlwyddyn 8 yn dod yn 'dditectifs mêl', gan helpu fferyllwyr i nodi'r planhigion sy'n gyfrifol am weithgarwch gwrthfacterol mêl y Brifysgol. Ym Mlwyddyn 9, byddant yn ynysu cyfansoddion gwrthfacterol o'r planhigion. Drwy'r gweithgareddau hyn bydd y myfyrwyr yn datblygu gwerthfawrogiad o'r broses darganfod cyffuriau a'r wyddoniaeth sy'n sail i feddyginiaeth.
Cemeg yn y trydydd dimensiwn
Bydd y prosiect, o dan arweiniad Dr David Willock o'r Ysgol Cemeg, yn defnyddio sinema symudol 3D i gynnig i ddisgyblion y cyfle i gamu i mewn i amrywiaeth o systemau cemegol. Bydd y gweithdai yn cyfuno cemeg gyfrifiadurol gyda'r uwch-daflunydd 3D i ddod â chemeg yn fyw ar y lefel atomig.
Bydd myfyrwyr yn dysgu sut mae priodweddau deunyddiau bob dydd yn gysylltiedig â strwythur atomig. Bydd gweithdai yn seiliedig ar themâu'r amgylchedd, plastigau a darganfod cyffuriau. Byddant yn cynnwys proffiliau gyrfa pobl sydd wedi astudio'r pwnc.
Mae'r rhaglen yn dod i ben gyda myfyrwyr yn dylunio eu harbrofion cemeg cyfrifiadurol eu hunain. Byddant hefyd yn cael cyfle i ddadansoddi data a gafwyd gan efelychu uwch-gyfrifiadurol.
UniverseLab
Mae'r prosiect cael ei oruchwylio gan Dr Paul Roche o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth. Mae'n defnyddio gofod i ennyn diddordeb myfyrwyr mewn gwyddoniaeth, trwy gyfuniad o sioeau 3D, rhith-wirionedd a realiti estynedig, telesgopau robotig a gweithdai ymarferol.
Wrth archwilio'r Bydysawd o'u hystafelloedd dosbarth, bydd y disgyblion yn gweld sut mae gofodwyr yn byw ac yn gweithio ar yr Orsaf Ofod Rhyngwladol, ac yn cynllunio i archwilio'r Blaned Mawrth yn y dyfodol. Bydd y Telesgopau Faulkes sy'n cael eu rheoli o bell yn tynnu lluniau o blanedau, sêr a galaethau, y bydd y disgyblion yn eu monitro dros y tair blynedd nesaf.
Yn y gweithdai bydd y disgyblion yn astudio craterau, meteoritau a ffosiliau, ac yn dysgu am ddiflaniad y deinosoriaid, tra byddant hefyd yn sganio'r awyr i chwilio am asteroidau, comedau ac uwchnofâu newydd.
Pobl
Staff academaidd
Yr Athro Paul Roche
MSc Astrophysics Programme Coordinator
- rochepd@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 7197
Dr Liam Thomas
Apothecary Bees Project Manager
- blunts1@caerdydd.ac.uk
- 029225 10770
Yr Athro David Willock
Senior Lecturer in Physical Chemistry
- willockdj@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 4779
Staff cysylltiedig
Kelly Gale
Swyddog Gweithrediadau
- galek3@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5091
Sajan Miah
Programme Digital / Technical Officer
- miahs@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 0104
Steven Morris
Apothecary Bees Project Manager
Lucy Simmonds
Programme Financial Officer - Financial Claims
- simmondsl@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2251 0727
Rhys Thomas
Research, Innovation and Engagement Assistant
- thomasr115@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 20876017
Cysylltwch â ni
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni:
Trio Sci Cymru
Rydym yn cynnig ystod eang o weithgareddau ac adnoddau i ysgolion a cholegau yng Nghymru sy’n codi dyheadau, cefnogi’r cwricwlwm ac yn ennyn chwilfrydedd yn ogystal â chefnogi datblygiad proffesiynol athrawon.