Ehangu cyfranogiad
Ein gweledigaeth yw bod pob myfyriwr, ni waeth beth fo'i gefndir neu ei brofiad personol, yn cael ei ysbrydoli i ystyried addysg uwch yn opsiwn cyraeddadwy ac y gall myfyrwyr astudio, llwyddo a ffynnu ym Mhrifysgol Caerdydd a thu hwnt.
Mae’r weledigaeth hon yn seiliedig ar ein gwerthoedd a'n hymrwymiad i gefnogi a dathlu amrywiaeth, creu cymuned agored a chynhwysol a sicrhau bod myfyrwyr wrth wraidd yr hyn a wnawn.
Wrth adeiladu ar ein gwerthoedd a’n hymrwymiad i sicrhau amrywiaeth a chynhwysiant, rydym wedi datblygu strategaeth i sicrhau y gall pob myfyriwr ffynnu a datblygu i ddod yn weithwyr proffesiynol ac arweinwyr cymdeithas y dyfodol.
Mae ein strategaeth ehangu cyfranogiad ar gyfer 2020-2025 yn adeiladu ar ein record ragorol o sicrhau bod myfyrwyr wrth wraidd yr hyn a wnawn. Y nod yw helpu myfyrwyr dan anfantais economaidd-gymdeithasol, gan gynnwys anfantais addysgol, i ymgysylltu, cyflawni a llwyddo ym Mhrifysgol Caerdydd.
Rydym yn deall nerth addysg i drawsnewid bywydau ac yn credu na ddylai amddifadedd economaidd-gymdeithasol, cyfraddau cyfranogi isel mewn addysg uwch, anfantais addysgol nac unrhyw darfu ar addysg rwystro myfyrwyr rhag cyrraedd eu potensial academaidd llawn a dilyn gyrfa ystyrlon a boddhaus.
Mae ein strategaeth ehangu cyfranogiad yn canolbwyntio ar bedwar prif faes:
- Ymgysylltu â phobl o bob cenhedlaeth a'u hysbrydoli i ystyried addysg uwch yn opsiwn realistig a chyraeddadwy
- Denu a recriwtio myfyrwyr â photensial academaidd, ni waeth beth fo'u cefndir neu eu profiad personol
- Galluogi unigolion i bontio i’r brifysgol yn llwyddiannus a sicrhau bod profiad myfyrwyr yn un rhagorol a chefnogol
- Meithrin ac annog dyfodol hyderus a llwyddiannus i bawb
Adroddiad Blynyddol Ehangu Cyfranogiad 2023
Mae’r adolygiad blynyddol hwn yn myfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf ac yn archwilio sut rydym yn gweddu ein gwaith i nodau ein Strategaeth WP 2020-2025
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Cynllun ffioedd a mynediad
O dan Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, mae'n ofynnol i ni ddatblygu cynllun ffioedd a mynediad bob blwyddyn, a buddsoddi cyfran o incwm ffioedd israddedig ar weithgaredd cynllun ffioedd mynediad a ffioedd.
Cysylltu â ni
Tim Ehangu Cyfranogiad ac Allgymorth
Darganfyddwch ein rhaglenni pwrpasol sydd wedi cael eu llunio’n ofalus i chwalu'r rhwystrau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu yn ogystal â’u cefnogi yn ystod eu taith addysgol.