Ymchwil cynaliadwy
Mae ymchwil datblygu cynaliadwy yn gryfder allweddol ar draws amrywiaeth eang o feysydd pwnc.
Rydyn ni’n cael ein cydnabod yn rhyngwladol am ein hymchwil ar gynaliadwyedd, ac mae ein staff a’n myfyrwyr yn gweithio mewn sawl disgyblaeth i ymchwilio ac arloesi ym meysydd newid yn yr hinsawdd, sero net a bioamrywiaeth, gan ganolbwyntio ar gydnabod ein cyfrifoldeb i genedlaethau’r dyfodol i sicrhau ein bod yn gadael iddyn nhw gymdeithas a phlaned iachach na’r hyn a etifeddwyd gennym ni.
Yn hyn o beth, rydyn ni’n sicrhau ein bod yn cynnal ein holl waith ymchwil mewn ffordd gyfrifol a’n bod yn ystyried effaith ein penderfyniadau ar y gymdeithas a’r blaned ehangach. Rydyn ni wedi llofnodi'r Concordat er Cynaliadwyedd Amgylcheddol Ymarfer Ymchwil ac Arloesi.
Dros y deg mlynedd nesaf byddwn ni’n arloesi o ran arferion ymchwil sy’n gyfrifol yn fyd-eang, gan gynnwys lleihau gwastraff ymchwil, gwella dyluniadau ac ymddygiad, gwneud ein holl waith yn gyhoeddus a meithrin partneriaethau rhyngwladol cryf i wella gwybodaeth pawb.
Mae gan y Brifysgol ecosystem fywiog o sefydliadau, rhwydweithiau a chanolfannau ymchwil ac mae cynaliadwyedd yn egwyddor gyffredin iddyn nhw. Mae hyn yn adlewyrchu’r llu o heriau sydd ynghlwm wrth ymchwil cynaliadwyedd, boed yn broblemau ar raddfa fawr sy'n gofyn am raglenni ymchwil trawsddisgyblaethol ledled y Brifysgol neu atebion sy’n canolbwyntio ar bynciau penodol.
Canolfannau cysylltiedig eraill:
Archwiliwch ein sefydliadau, canolfannau a grwpiau i ddysgu sut mae ein hymchwil yn ymateb i faterion cynaliadwyedd.