Ewch i’r prif gynnwys

Adrodd ar garbon

Ategir ymrwymiad Prifysgol Caerdydd i leihau ein hallyriadau carbon cymaint â phosibl gan ddangos tryloywder ynghylch ein hallyriadau, yn gyfredol ac yn hanesyddol.

Rydym wedi mesur ein hallyriadau carbon ar gyfer y flwyddyn adrodd gyflawn ddiweddaraf (1 Awst 2022 i 31 Gorffennaf 2023), wrth ddefnyddio dau fframwaith gwahanol: Fframwaith Adrodd ar Sero Net Sector Cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru; a Fframwaith Allyriadau Carbon Safonol gan yr EAUC (Cymdeithas yr Amgylchedd ar gyfer Prifysgolion a Cholegau). Mae’r siart isod yn dangos ein hallyriadau gwaelodlin, a’n hallyriadau yn y flwyddyn 2022/23 ôl y ddau ddull adrodd.

Allyriadau blynyddol Prifysgol Caerdydd, fesul categori (tCO₂e)

Cwmpas

Categori

Allyriadau gwaelodlin*

Fframwaith Adrodd Sero Net y Sector Gyhoeddus gan Lywodraeth Cymru
2022/23

Fframwaith Allyriadau Carbon Safonol gan yr EAUC
2022/23

1

Nwy

13,212

13,445

13,445

Fflyd

91

106

106

Nwy anesthetig

0.5

0.5

0.5

Nwy wedi ei fflworineiddio

506

465

465

2

Trydan

18,583

11,097

11,097

3

Dŵr

130

120

120

Tanwydd ac Ynni a ddefnyddir i gludo i'r sefydliad

5,991

5,879

5,879

Gwastraff

73

91

91

Teithio ar Fusnes

2,996

2,995

2,996

Cymudo staff

3,299

3,298

3,299

Gweithio Gartref

543

476

421

Caffael

125,544

58,634

125,544

Teithio gan fyfyrwyr y DU a Myfyrwyr Rhyngwladol

1,950Heb ei adrodd1,950

Asedau ar brydles

I'w gadarnhau

-
 

Buddsoddiadau

I'w gadarnhau

-

*Caiff y gwaelodlinau eu gosod am bob categori unigol, fel y canlynol: 2005/06 (nwy a thrydan); 2014/15 (fflyd); 2021/22 (nwy anesthetig, nwy wedi ei fflworideiddio, dŵr, tanwydd ac ynni a ddefnyddir i gludo i'r sefydliad, gwastraff a gweithio gartref) a 2022/23 (teithio ar fusnes, cymudo staff, caffael a theithio gan fyfyrwyr).

Fel y gwelir yn y tabl, mae fframwaith yr EAUC yn recordio mwy o allyriadau carbon a chynhyrchir gan weithgareddau’r Brifysgol. Roedd allyriadau caffael yn ystod 2022/23 114% yn uwch na’r cyfanswm a fesurir gyda fframwaith Llywodraeth Cymru. Hefyd, yn wahanol i fframwaith yr EAUC, ni chynhwysa fframwaith Llywodraeth Cymru allyriadau o gymudo myfyrwyr o fewn ei derfynau.

Rydym yn dilyn fframwaith yr EAUC gan ei fod yn galluogi cymariaethau ar hyd y sector addysg uwchradd, ac oherwydd bod ei gategoreiddio mewn themâu allweddol, yn enwedig caffael, yn adlewyrchu allyriadau’r Brifysgol yn fwy manwl. Rydym nawr am ddefnyddio’r fframwaith yma yn bennaf er mwyn mesur ein hallyriadau carbon, tra i ni barhau i adrodd ein hallyriadau yn flynyddol wrth Lywodraeth Cymru yn ôl eu fframwaith nhw.

Wrth i ni ddatblygu ein dulliau casglu data ers y flwyddyn 2021/22, rydym wedi mesur ein hallyriadau o deithio a chaffael yn fwy manwl. Rydym felly wedi ailosod ein hallyriadau gwaelodlin ar gyfer teithio ar fusnes, cymudo (yn cynnwys teithio gan fyfyrwyr) a chaffael, wrth ddefnyddio cyfansymiau 2022/23 yn ôl methodoleg yr EAUC. Nodwn, wrth i ni barhau i wella ansawdd ein data, y gall allyriadau o deithio ar fusnes, cymudo a gwastraff barhau i gynyddu o flwyddyn 2023/24 ymlaen.

Rydym wedi dadansoddi ein hallyriadau Cwmpas 1 a 2 o nwy a thrydan ers y flwyddyn 2005/06, yn ogystal ag allyriadau o fflyd ers 2014/15, gan ddefnyddio ein hofferyn Adroddiad Rheoli Ystadau. Wrth i ni hefyd fesur datblygiad ystad y brifysgol dros yr un cyfnod, gallwn ddadansoddi ein hallyriadau Cwmpas 1 a 2 o’u cymharu â maint yr ystad. Mae ein hallyrianau Cwmpas 1 a 2 wedi lleihau 22% ers gwaelodlin 2005/06, er bod ein hystad wedi tyfu 34% dros yr un cyfnod.

Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon i gynnwys data am y flwyddyn 2023/24 yn gynnar yn 2025.