Perfformiad
Ein nod yw archwilio a gwella effeithlonrwydd o ran ein defnydd o ddŵr ac ynni, ailgylchu, caffael gwyrdd, cynnal a chadw’r campws a bioamrywiaeth.
Defnydd ynni
Fe wnaethom ddefnyddio 2.5% yn llai o ynni yn 2019-20, o gymharu â 2018-19, i 113,636,891kWh.
Parhaodd yr allyriadau carbon a rhwydwaith a gyfrifwyd yn erbyn yr allyriadau grid cyfartalog i ostwng yn ystod y flwyddyn academaidd 2019-20 (27% yn is na 2005/06) ar ôl datgarboneiddio’r grid.
Cysylltu
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni:
Ymholiadau egni
Ymholiadau amgylcheddol
Caffael Cyfrifol
Mae’r Gwasanaethau Caffael wedi ymrwymo i gynorthwyo Prifysgol Caerdydd i ddatblygu dyfodol cynhwysol, cyfrifol a gwydn i’n cymuned a dod â manteision amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethiant (ESG) i Gaerdydd, Cymru a’r byd ehangach. Rydyn ni’n ymdrechu i wneud pob caffaeliad yn gyfrifol, gan gadw targedau lleihau allyriadau a gwerth cymdeithasol mewn cof.
Bydd yn rhaid i gwmnïau sy'n dymuno cynnig nwyddau, gwasanaethau neu waith i'r Brifysgol felly ddangos ymrwymiad i ESG.
Mae ein Polisi Caffael Cyfrifol a’n Côd Ymddygiad Cyflenwyr yn cydnabod bod caffael yn sbardun allweddol o ran sicrhau manteision ESG ehangach i’r ddinas, y rhanbarth a’r genedl, megis datgarboneiddio, masnach deg ac arferion llafur a chymorth i fusnesau a chymunedau lleol. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn ein nodau i leihau allyriadau Cwmpas 3, gwella arferion llafur teg yn ein cadwyn gyflenwi, cadw at arfer gorau lle bo modd a chydymffurfio â rheoliadau a pholisïau.
Mae'r Polisi Caffael Cyfrifol a'r Côd Ymddygiad Cyflenwyr yn cyd-fynd â Nodau Llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru a Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Mae'r Brifysgol hefyd wedi'i hardystio ac wedi ymrwymo i gynnal Safonau Rhyngwladol megis ISO 14001 ac ISO 45001. Mae'r rhain wedi'u cynllunio i sicrhau ystyriaethau moesegol wrth brynu nwyddau, gwasanaethau neu waith.
Rhyddhawyd y Polisi Caffael Cyfrifol ym mis Gorffennaf 2024, a rhyddhawyd y Côd Ymddygiad Cyflenwyr ym mis Ionawr 2025. Rydyn ni’n adolygu'r ddau bob blwyddyn ac yn cadw golwg rheolaidd arnyn nhw i sicrhau bod ein nodau'n gyraeddadwy ac yn uchelgeisiol. Gellir gweld y ddau yn yr adran Dogfennau Cysylltiedig o'r dudalen hon.
Cynllun i Gaffael Cyfrifol
Isod mae dyddiadau allweddol ein llwybr i gymryd cyfrifoldeb am ein gweithgareddau caffael:
- Gorffennaf 2024: Polisi Caffael Cyfrifol
- Ionawr 2025: Côd Ymddygiad Cyflenwyr
- Mawrth 2025: Gwerthusiad Cyflenwr Strategol Cwmpas 3
- Gorffennaf 2025: Hyfforddiant pellach – i gynnwys cleientiaid a chyflenwyr
- Ebrill 2026: Recriwtio posibl
- Ionawr 2027: Achrediadau
Gwobrau
Gwobr/enwebiad | Dyddiad | Manylion |
---|---|---|
Gwobrau Rhagoriaeth Meddalwedd ac European IT, 2017 | Mawrth 2017 | Dyfarnwyd i Ganolfan Ddata Uwchgyfrifiadur ARCCA Redwood, trwy ein darparwr Schneider Electric, gan weithio mewn partneriaeth â staff Schneider Electric (APC), Comtec Power, CoolTherm a Phrifysgol Caerdydd (ARCCA, Ystadau a TG Prifysgol) - am optimeiddio effeithlonrwydd gweithredol ac ynni y ganolfan ddata. |
Gwobrau Prifysgol The Guardian - Cynaladwyedd | Mawrth 2017 | Fe wnaeth ein prosiect sydd o les i wenyn ennill yng nghategori prosiect cynaladwyedd. Rydym yn cydweithio ag ysgolion lleol a phrosiectau gwyddoniaeth ar draws de Cymru er mwyn rhoi amgylchedd gwell i wenyn yn ogystal â cheisio datblygu gwrthfiotogau newydd sy’n seiliedig ar fêl. |
Gwobr Arloesedd mewn Cynaliadwyedd | Mehefin 2015 | Mae arbenigwyr o Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi dylunio tŷ clyfar sy’n cynhyrchu mwy o egni nag y mae'n ei ddefnyddio. Cafodd y prosiect hwn ei anrhydeddu yng Ngwobrau Arloesedd ac Effaith Caerdydd 2015 |
Nod Arlwyo Bwyd am Oes Cymdeithas y Pridd | Hydref 2012 | Ni oedd y Brifysgol gyntaf yng Nghymru i gael ei chydnabod gan Gymdeithas y Pridd am ei hymrwymiad i ddarparu bwyd sydd wedi'i baratoi'n ffres, heb unrhyw ychwanegion dadleuol ac sy’n well er lles anifeiliaid. |
Gwobrau BREEAM Cymru 2012 | Gorffennaf 2012 | Mae Adeilad newydd Hadyn Ellis sy'n cael ei adeiladu ym Mharc Maindy, wedi ennill gwobr bwysig am ei gynaliadwyedd. |
ISO 14001/ Systemau Rheoli Amgylcheddol | Ni oedd y Brifysgol gyntaf yng Nghymru i dderbyn ISO 14001 - safon a dderbynnir yn rhyngwladol fel arwydd o ymrwymiad sefydliad i leihau ei effaith amgylcheddol - a BS OHSAS 18001 sy'n cydnabod hyrwyddo amgylchedd gwaith diogel ac iach. | |
Enwebiad Gwobr Green Gown | Awst 2011 | Cafodd menter marchnata cymdeithasol arloesol oedd yn ceisio lleihau nifer yr achosion o danau glaswellt oedd yn cael eu cynnau’n fwriadol, ei rhoi ar y rhestr fer yn y categori Cyfrifoldeb Cymdeithasol. |
Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol | Gorffennaf 2010 | Dyfarnwyd gwaith rhagorol yn y gymuned leol i Wirfoddolwyr Cadwraeth Caerdydd (CCV), grŵp a gyd-sefydlwyd gan John Newton, oedd yn arfer bod yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol yn Is-adran Gyllid y Brifysgol. |
Gwobrau Green Gown | Mehefin 2010 | Fe wnaeth menter o dan arweiniad myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd, sy’n hyrwyddo bwyta ffrwythau a llysiau fforddiadwy o ffynonellau lleol, gipio’r wobr am Fentrau ac Ymgyrchoedd Myfyrwyr. |
Safon yr Ymddiriedolaeth Carbon | Mai 2010 | Ni oedd y Brifysgol gyntaf yng Nghymru i gyrraedd Safon yr Ymddiriedolaeth Carbon, sy’n farc rhagoriaeth cenedlaethol. Roedd hyn i gydnabod ei gwaith a'i chanlyniadau a'i ymrwymiad parhaus i leihau ei hallyriadau carbon. |
Darllenwch ein polisïau amgylcheddol i ddysgu sut rydym yn ymgorffori cynaliadwyedd ar draws ein gweithrediadau.