Ewch i’r prif gynnwys

Campws

Mae cynaliadwyedd yn rhan annatod o'n gwerthoedd, a’n nod yw ei wneud yn nodwedd amlwg o’n gwaith.

Er mwyn gwreiddio cynaliadwyedd yn y Brifysgol, byddwn yn:

  • galluogi ein graddedigion a'n staff i ddod yn ddinasyddion cynaliadwy sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol at gymdeithas
  • sicrhau bod datblygu cynaliadwy’n ystyriaeth allweddol wrth wneud penderfyniadau ar lefel uwch

Cynllun Gweithredu Cydnerthedd Ecosystemau a Bioamrywiaeth (ERBAP)

Mae Grŵp Llywio ERBAP wedi adolygu a diweddaru Cynllun Gweithredu Cydnerthedd Ecosystemau a Bioamrywiaeth y brifysgol yn ddiweddar. Mae’r cynllun yn nodi sut yr ydym am gynnal a gwella bioamrywiaeth a hybu cydnerthedd ecosystemau ar draws campysau Prifysgol Caerdydd, yn unol â Dyletswydd Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Mae'r ERBAP yn seiliedig ar asesu a gwella'r pum nodwedd a ddatblygwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer datblygu cydnerthedd ecosystemau: amrywiaeth, graddfa, cyflwr, cysylltedd ac addasrwydd ecosystemau (DECCA). Mae’r cynllun hefyd yn ymgorffori’r pum ffordd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol: integreiddio, cydweithio, ymgysylltu, hirdymor ac atal.

Datblygwyd yr ERBAP ar y cyd â Chyngor Caerdydd er mwyn sicrhau synergedd rhwng y ddau sefydliad i gyrraedd ein targedau ar gyfer cydnerthedd ecosystemau a bioamrywiaeth. Dyma waith ar y cyd sy’n defnyddio adnoddau ac arbenigedd cymuned gyfan Prifysgol Caerdydd: staff academaidd a'r gwasanaethau proffesiynol, israddedigion ac ôl-raddedigion.

Mae’r ERBAP diwygiedig yn nodi cyfres o dargedau i’w cyrraedd dros y tair blynedd nesaf rhwng 2024 a 2026. Rydym yn cyflwyno fersiwn gryno o'r cynllun yma, sy'n cynnwys y nodau,  rhywogaethau/grwpiau rhywogaeth a chynefinoedd blaenoriaeth, a'r targedau rhywogaethau, cynefinoedd, ymgysylltu, ac addysg. Mae fersiwn llawn ar gael ar gais drwy hedgehogs@caerdydd.ac.uk.

Newid Camau Caerdydd

Mae Newid Camau Caerdydd yn gynllun gwobrwyo sy’n ceisio annog teithio llesol a chynaliadwy. Drwy ddefnyddio ap o’r enw BetterPoints, gall staff a myfyrwyr y Brifysgol gasglu pwyntiau am deithio mewn ffyrdd mwy cynaliadwy. Gellir cyfnewid y pwyntiau am dalebau, eu gwario ar gynigion neu eu rhoddi i gefnogi prosiectau bioamrywiaeth ar draws y campws.

Bydd 100% o'r arian sy’n cael ei roddi’n mynd i brosiectau Grŵp Llywio’r ERBAP er mwyn helpu i symud ei gynllun ar gyfer datblygu cydnerthedd ecosystemau a bioamrywiaeth ar draws campysau Prifysgol Caerdydd yn ei flaen.

Rheoli carbon

Rydym ni’n datblygu Map Ffordd Carbon Sero Net a fydd yn amlinellu’r camau y dylen ni eu cymryd i helpu’r Brifysgol i gyrraedd sefyllfa sero net ar gyfer allyriadau Cwmpas 1 a Chwmpas 2.

Byddwn ni’n cychwyn rhaglen 18 mis o hyd yn ystod haf 2024 i leihau ein hallyriadau carbon. Byddwn ni’n cadw llygad craff ar arbedion ynni a charbon y Brifysgol drwy gydol y rhaglen i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’n disgwyliadau ac yn helpu i gyrraedd y targedau a bennwyd yn ein Cynllun Gweithredu Cynaliadwyedd Amgylcheddol. Bydd y rhaglen yn cyflwyno chwe mesur arbed ynni gyda’r nod o leihau ein defnydd o drydan a nwy:

  1. Uwchraddio’r goleuadau i rai LED mewn 32 o adeiladau
  2. Gosod paneli solar ar nifer o doeon addas
  3. Uwchraddio unedau trin aer mewn 5 adeilad
  4. Uwchraddio’r cypyrddau gwyntyllu
  5. Inswleiddio falfiau a phibellau
  6. Gosod pwmp gwres o’r ddaear ychwanegol

Gyda’i gilydd, bydd y newidiadau’n helpu’r Brifysgol i arbed 1,363 tunnell fetrig o garbon deuocsid a’i gyfatebol bob blwyddyn. Mae hynny tua 5% o’n hallyriadau Cwmpas 1 a Chwmpas 2. Bydd hefyd yn helpu i leihau ein costau ynni blynyddol. Mae’r gwaith hwn yn gam cyntaf yn y cyfeiriad cywir i gyrraedd sefyllfa sero net, ac rydyn ni’n cynllunio gwaith lleihau carbon i’w wneud yn y dyfodol er mwyn lleihau ein hallyriadau hyd yn oed ymhellach.

Rydyn ni’n ymroddedig i fod yn agored ynglŷn â’n hymdrechion i leihau carbon. Cewch y wybodaeth fwyaf diweddar am ein hallyriadau ar ein tudalen Adrodd ar garbon bwrpasol.

Teithio cynaliadwy

Mae ein Cynllun Teithio’n nodi ym mha feysydd y gallwn weithio gyda’n gilydd i leihau ein hôl troed carbon, cyfrannu at les hirdymor a helpu Cymru i sicrhau dyfodol carbon isel.

Rydym yn annog ein staff a’n myfyrwyr, yn ogystal â’r rhai sy’n teithio i ymweld â Phrifysgol Caerdydd, i deithio mewn ffordd gynaliadwy.

Mentrau ar draws y Brifysgol

Mae mentrau cynaliadwyedd ar waith yn rheolaidd i helpu i reoli carbon yn y Brifysgol.

Rydym yn annog ailddefnyddio poteli dŵr a mygiau. Mae dŵr yfed ar gael yn rhad ac am ddim ar draws y Brifysgol, a hynny o ffynhonnau yfed yn ein hadeiladau a’n caffis/bwytai.

LEAF

Lansiwyd gweithrediad LEAF (Fframwaith Asesu Effeithlonrwydd Labordy) ym mis Tachwedd 2022. Mae'r fenter yn dilyn yr un egwyddorion â rhaglen Effaith Werdd ond mae'n canolbwyntio ar gamau gweithredu cynaliadwy ar gyfer labordai. Mae canllawiau lleol wedi'u hysgrifennu ac mae adnoddau wedi’u datblygu. Bydd hyn yn helpu'r Brifysgol i gydymffurfio â’n hymrwymiadau ar gynaliadwyedd amgylcheddol a sero net o ran carbon. Dechreuodd y rhaglen yn wreiddiol yng Ngholeg Prifysgol Llundain a bellach mae'n cael ei chyflwyno ar draws y DU.

Mae gofyn i’r rhai sy’n cymryd rhan yn y rhaglen gwblhau llyfr gwaith gyda'r nod o gael achrediad Efydd, Arian ac Aur y naill ar ôl y llall. Mae gan bob lefel nifer o gamau gweithredu i ddefnyddwyr labordy eu cyflawni er mwyn arbed gwahanol adnoddau gan gynnwys plastigion, dŵr ac ynni. Y nod yn y pen draw yw lleihau allyriadau carbon labordy a chreu diwylliant sy'n cefnogi safon yr ymchwil. Ymhlith y meysydd eraill sy’n rhan o LEAF y mae effeithlonrwydd cyfarpar, caffael, rheoli cemegol, a theithio at ddibenion busnes. Dylai labordai sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gysylltu â leaf@cardiff.ac.uk.

Wythnos Cynaliadwyedd

Cynhelir yr Wythnos Cynaliadwyedd rhwng 4 a 15 Mawrth 2024, gyda digwyddiadau a sesiynau ymarferol i annog ein staff a'n myfyrwyr i fyw bywydau mwy cynaliadwy. Bydd dau ddiwrnod ffocws allweddol ar y 7 fed yng Ngorllewin Parc y Mynydd Bychan a'r 12 fed yn y Prif Adeilad, lle bydd gwybodaeth, gweithgareddau hwyliog a chymorth ymarferol ar gael. Un o brif themâu  eleni yw codi ymwybyddiaeth, a sicrhau ein bod i gyd yn gwahanu ein sbwriel i’w ailgylchu’n gywir.

Rhwydwaith y Swyddog Cydymffurfio Amgylcheddol (ECO)

Cynhelir cyfres o gyfarfodydd hybrid ar thema cynaliadwyedd eleni (2023-2024) ar gyfer ein rhwydwaith ECO, gan gynnig gwybodaeth a diweddariadau am gamau gweithredu strategol y gellir eu cyflwyno ar lefel leol. Bydd y themâu yn cynnwys Carbon Sero-Net (Ionawr); Teithio Cynaliadwy (Mawrth); Bioamrywiaeth (Mai) a Gwastraff ac Ailgylchu (Gorffennaf).

Campws addas i ddraenogod

Yn rhan o’r ERBAP, rydym bellach wedi ymuno â’r cynllun achredu Campws Addas i Ddraenogod. Dyma raglen bioamrywiaeth genedlaethol ar gyfer prifysgolion ac, yn fwy diweddar, ysgolion a cholegau. Cafodd ei sefydlu gan Gymdeithas Cadwraeth Draenogod Prydain mewn partneriaeth ag SOS-UK.

Mae’r rhaglen yn cynnig cymorth rhad ac am ddim i aelodau o’r staff a myfyrwyr sydd am gymryd camau ystyrlon i drawsnewid campysau’r Brifysgol yn gynefinoedd diogel i ddraenogod a mathau eraill o fywyd gwyllt.

Papur wedi’i ailgylchu 100%

Rydym yn defnyddio papur wedi’i ailgylchu 100% ar gyfer gwaith argraffu a llungopïo cyffredinol yn y Brifysgol. Rydym hefyd yn ceisio nodi ffyrdd o leihau effaith gwaith argraffu arbenigol ar yr amgylchedd.