Ymchwil
Mae ein hymchwil yn sicrhau grantiau a buddsoddiadau werth degau o filiynau o bunnoedd gan ddenu ymchwilwyr blaenllaw o bedwar ban byd.
Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021 canfuwyd bod 90% o'n hymchwil yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol. Mae hyn yn golygu ein bod ymhlith yr 20 prifysgol orau yn y DU am safon gyffredinol ein hymchwil. Roedd y cyflwyniad yn adlewyrchu’r ffordd gynhwysol rydym yn cefnogi rhagoriaeth ymchwil ar draws pob disgyblaeth a chyflawnwyd hyn trwy gynorthwyo ymchwilwyr Caerdydd i gyflawni ymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth. Mae’r ffaith inni gyflwyno 100% o’n hymchwil, yn ogystal â’r twf sylweddol yn ein cymuned ymchwil yn ystod cyfnod REF 2021, yn brawf o hyn.
Rydym ni'n rhan o Grŵp Russell o 24 o brif brifysgolion ymchwil y DU. Mae ein staff ymchwil o ansawdd byd-eang, gan gynnwys Enillwyr Gwobr Nobel, Cymrodyr y Gymdeithas Frenhinol ac aelodau o sefydliadau nodedig eraill.
Caiff ein harbenigedd a'n cyfleusterau ymchwil eu defnyddio gan bartneriaid o fyd diwydiant a masnach, cyrff y llywodraeth a sefydliadau eraill yn rhyngwladol. Rydym ni'n helpu i greu syniadau busnes a chwmnïau deillio gan gyfrannu at dwf economaidd a chreu swyddi yng Nghymru a thu hwnt. Cyfanswm gwerth ein contractau ymchwil yw £500M.
Rydym ni wedi creu Sefydliadau Ymchwil pwysig i ddilyn trywyddion gwyddonol newydd mewn perthynas â rhai o bryderon pwysicaf y byd:
Rydym ni’n defnyddio ein gwybodaeth i ddatblygu ymchwil arloesol fydd yn cael effaith ar y byd.