Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu
Rydym wedi cael gradd arian yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF) newydd Llywodraeth y DU.
Nod TEF yw cydnabod, gwobrwyo a gwella addysgu rhagorol ym maes addysg uwch.
Nododd y panel TEF Panel fod “myfyrwyr o bob cefndir yn cyflawni deilliannau ardderchog" ym Mhrifysgol Caerdydd, a bod "cyfran uchel iawn o fyfyrwyr yn parhau â'u hastudiaethau ac yn mynd ymlaen i gael swydd, swydd hynod fedrus neu astudiaeth bellach”.
Tynnodd y Panel sylw at dystiolaeth o arferion da ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnwys:
- Dyluniad y cwrs ac arferion asesu sy'n cynnig cyfleoedd i ymestyn ac sy'n gwneud yn siŵr bod yr holl fyfyrwyr yn cael eu herio o ddifrif.
- Diwylliant o fewn y sefydliad sy'n hwyluso, cydnabod a gwobrwyo addysgu rhagorol drwy gynnig cyfleoedd am ddyrchafiad, datblygu staff a chynlluniau gwobrwyo.
- Myfyrwyr yn cael eu hymgysylltu'n uniongyrchol â datblygiadau sydd ar flaen y gad ym meysydd ymchwil, ysgolheictod ac ymarfer. Mae myfyrwyr yn cael hyfforddiant ymchwil sy'n berthnasol i'r ddisgyblaeth i gyfoethogi'r profiad dysgu.
- Cymorth rhagorol sydd wedi'i deilwra i fyfyrwyr unigol drwy diwtoriaid personol ac sy'n gwella ymdrechion i gadw myfyrwyr o bob cefndir a helpu eu cynnydd.
Ein hasesiad
Mae'r asesiadau o brifysgolion yn canolbwyntio ar ansawdd yr addysgu, yr amgylchedd dysgu a deilliannau i fyfyrwyr. Mae’r asesiadau’n defnyddio amrywiaeth o ddata, gan gynnwys canlyniadau Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr, canlyniadau cyflogadwyedd graddedigion, cyfraddau cadw myfyrwyr a data ehangu cyfranogiad.
Caiff ceisiadau TEF eu hasesu gan banel adolygu sy'n cynnwys academyddion, cyflogwyr a myfyrwyr.
Our TEF narrative submission
Cais Prifysgol Caerdydd i’r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF), Ionawr 2017.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Ein cryfderau
Rydym yn ymrwymo i roi profiad rhagorol i’r myfyrwyr yn ogystal â dysgu ac addysgu o’r radd flaenaf. Rydym yn ymfalchïo mewn helpu ein myfyrwyr i elwa ar ryngweithio ag ymchwilwyr blaenllaw mewn cyfleusterau rhagorol. Ymysg rhai o’r cryfderau a nodwyd yn ein cais TEF, roedd cefnogi rhagoriaeth addysgu, buddsoddi yn ein campws, symudedd byd-eang, dysgu a arweinir gan ymchwil, cyfraddau cadw myfyrwyr a sicrhau bod ein graddedigion yn barod ar gyfer byd gwaith.
Ansawdd addysgu
Rydym yn gwneud yn siŵr bod dysgu a arweinir gan ymchwil ac addysgu deallusol yn ymestyn ac yn herio ein myfyrwyr.
Rydym yn annog ac yn cefnogi staff academaidd i ddatblygu eu haddysgu a'u hymchwil drwy gydol eu gyrfaoedd. Disgwylir rhagoriaeth addysgu ac mae'n un o'n gofynion ar gyfer dilyniant gyrfa academaidd. Mae gennym ddisgwyliadau clir i staff ymgymryd ag addysgu a gweithgareddau'n ymwneud â myfyrwyr yn rhan o'u gwaith craidd.
Mae adborth o’r Arolwg Cenedlaethol diweddaraf yn dangos bod ein myfyrwyr yn fodlon iawn ar y cyfan. Canfu arolwg 2016 fod 87% o'n myfyrwyr yn fodlon ar eu profiad cyffredinol yn y Brifysgol.
Yr amgylchedd dysgu
Rydym yn buddsoddi cannoedd o filiynau o bunnoedd i ddarparu cyfleusterau o'r radd flaenaf i'n myfyrwyr fel rhan o'r cynllun mwyaf i uwchraddio'r campws ers cenhedlaeth. Mae rhaglen buddsoddi cyfalaf werth £600m ar draws y Brifysgol dros 10 mlynedd, gan gynnwys £260m ar gyfer cyfleusterau myfyrwyr, yn ein helpu i gynnig profiad rhagorol i fyfyrwyr.
Un o'n prosiectau mwyaf uchelgeisiol yw creu Canolfan Bywyd y Myfyrwyr gwerth £50m fydd yn ganolbwynt ar gyfer ein gwasanaethau cefnogi myfyrwyr. Bydd hefyd yn cynnig mannau dysgu cymdeithasol modern, hyblyg a darlithfa 550-sedd.
Mae ein buddsoddiad eisoes wedi darparu adeiladau modern ar gyfer addysgu a dysgu, a llety myfyrwyr. Rydym hefyd yn buddsoddi £40m dros nifer o flynyddoedd i adnewyddu ein cyfleusterau addysgu a dysgu presennol.
- 1,000 o gynrychiolwyr myfyrwyr
- 94% mewn cyflogaeth neu’n astudio ymhellach
- 87% o foddhad myfyrwyr
Deilliannau myfyrwyr a dysgu o'r newydd
Yn 2015/16, cymhwysodd 82% o'n hisraddedigion gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu 2:1, ac aeth 14% ymlaen i astudio'n ôl-raddedig, gyda 55% o'r rheini'n dewis aros ym Mhrifysgol Caerdydd.Mae hyn y golygu ein bod yn bumed yng Ngrŵp Russell o ran cadw israddedigion ar gyfer astudiaethau pellach.
Mae galw mawr am ein graddedigion ymhlith cyflogwyr. Yn ôl y ffigurau diweddaraf gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, roedd 94% o ymadawyr gradd gyntaf amser llawn yn 2014/15 wedi'u cyflogi a/neu’n astudio. Mae Prifysgol Caerdydd yn parhau i fod yn uwch na chyfartaledd y DU (93.9%), Lloegr (93.8%) a Chymru (93.2%).
Rydym yn paratoi ein graddedigion â sgiliau entrepreneuraidd ac rydym yn rhagori ar y prifysgolion eraill yng Ngrŵp Russell o ran nifer y busnesau newydd gan raddedigion.
Mae ein myfyrwyr yn cyfrannu'n uniongyrchol at lawer o'r penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Mae gennym dros 1,000 o gynrychiolwyr myfyrwyr sy’n siarad ar ran myfyrwyr ar draws y Brifysgol.