Y Ganolfan Ddysgu
Mae Canolfan Ddysgu Prifysgol Caerdydd yn ofod rhithwir sy’n gwella profiad dysgu’r myfyriwr yn barhaus.
Rheolir gan Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd, Mae’n arddangos ac yn rhannu gweithgareddau addysgol rhagorol o bob rhan o’r Brifysgol.
Mae’r Ganolfan, a ddatblygwyd gan academyddion i academyddion, yn rhoi mynediad uniongyrchol i staff i astudiaethau achos ac adnoddau cysylltiedig sy’n ymwneud ag amrywiaeth eang o ymarferion dysgu ac addysgu effeithiol ac arloesol.
Mae’r gofod deinamig hwn, sy’n datblygu’n gyson, hefyd yn rhoi cyfle i holl aelodau’r Brifysgol roi sylwadau ar, a chyfrannu at, yr holl adnoddau sydd ar gael gan ddod â’r gymuned ddysgu ac addysgu ynghyd a helpu i ddatblygu arferion addysgol rhagorol.