Ymgysylltu â'r cyhoedd drwy bolisi a busnes
Rydym yn ehangu effaith ein hymchwil i roi newid systemig eang ar waith er budd y cyhoedd.
Er mwyn i bolisi cyhoeddus y llywodraeth fod yn effeithiol, mae angen iddo gael ei seilio ar dystiolaeth a'i lywio gan ymchwil. Mae ymgysylltu â llunwyr polisi a busnesau yn un o'r ffyrdd y gallwn ehangu effaith ymchwil y tu hwnt i'r byd academaidd. Mae gweithio gyda'r cynulleidfaoedd hyn yn allweddol i wireddu newid systematig eang er budd y cyhoedd.
Mae ein hymchwilwyr yn cydweithio â phob lefel o lywodraethu, gan gwmpasu llywodraeth y DU, gweinyddiaethau datganoledig, ac awdurdodau lleol fel ei gilydd. Rydym yn helpu i sicrhau bod eu penderfyniadau ynghylch polisi cyhoeddus yn cyd-fynd â'r ymchwil o ansawdd uchel diweddaraf ac yn ymgorffori lleisiau cyhoeddus amrywiol.
Mae ein hymchwil amrywiol wedi llywio sawl maes polisi cyhoeddus, gan gynnwys:
- deddfwriaeth ynglŷn â digartrefedd
- gostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau'r Senedd
- mentora pobl ifanc mewn ieithoedd tramor modern
Mae gweithio mewn partneriaeth â phroffesiynau, busnesau a diwydiant yn ein galluogi i rannu a chynhyrchu gwybodaeth newydd i sbarduno arloesedd a newid cadarnhaol sy'n uniongyrchol berthnasol i gymdeithas a'r amgylchedd, megis:
- cyflogwyr yn talu’r Cyflog Byw
- amddiffyn ecosystemau afonydd
- mynd i'r afael â seiberddiogelwch byd-eang
Ochr yn ochr â gwerthoedd traddodiadol y brifysgol o ymdrechu am ragoriaeth academaidd, rydym yn defnyddio ein gwybodaeth a'n sgiliau eang a blaenllaw yn y byd i ddod o hyd i atebion ymarferol i broblemau a heriau trwy gydweithio gweithredol â diwydiant.
Rhagor o wybodaeth am bolisi ac ymgysylltu â busnes ym Mhrifysgol Caerdydd.