Ymgysylltu â'r cyhoedd ynghylch ymchwil
Mae ein hymchwilwyr yn gweithio ar draws nifer o ddisgyblaethau i fynd i'r afael â heriau o bwys sy'n wynebu’r gymdeithas, yr economi a'r amgylchedd, er mwyn cael effaith ystyrlon.
Mae gan gymunedau wybodaeth a phrofiad gwerthfawr i gyfrannu at ymchwil. Mae cymryd rhan mewn ymgysylltu â'r cyhoedd o fudd i'w datblygiad personol eu hunain ac mae'n cynnig cyfleoedd i fynd i'r afael â'r materion sy'n bwysig iddynt.
Credwn fod ymchwil yn perthyn i bawb - mae ein hymgysylltiad â'r cyhoedd yn ceisio chwalu'r rhwystrau rhwng ymchwil a chymdeithas. Rydym yn gwneud hyn drwy gynnwys a rhannu ein gwybodaeth a'n hymchwil gyda'r cyhoedd, gan wneud manteision ein gwaith yn hygyrch i bawb.
Mae Prifysgol Caerdydd yn gwerthfawrogi gwahanol fathau o wybodaeth drwy gydweithio â'r cyhoedd. Mae gwahodd cymunedau i helpu i lunio a llywio ein gwaith yn arwain at ymchwil gyfoethocach ac effeithiol, lle mae safbwyntiau a phrofiadau pawb yn cael eu rhannu a'u gwerthfawrogi. Gall hyn fod ar sawl ffurf, o gyfranogiad cleifion mewn ymchwil am eu cyflyrau meddygol, i ddinasyddion lleol sy'n casglu data ar gyfer prosiectau ymchwil amgylcheddol.
Darllenwch fwy am yr amgylchedd ymchwil yma ym Mhrifysgol Caerdydd.