Ymgysylltu â’r cyhoedd
Mae ymgysylltu â'r cyhoedd yn ein galluogi i flaenoriaethu a rhannu syniadau ac arbenigedd i sicrhau bod pawb yn cael budd.
Trwy gyfranogiad gweithredol a chydweithredol, ein nod yw cyd-greu cyfleoedd perthnasol a hygyrch gwerth chweil a chysylltu ein gwaith â'r gymdeithas ehangach.
Beth yw ymgysylltu â’r cyhoedd?
Diffinnir ymgysylltu â'r cyhoedd gan y Ganolfan Gydlynu Genedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd (NCCPE), sy'n arbenigo ym mhob agwedd ar ymgysylltu a datblygu'r cyhoedd, fel:
“Y myrdd o ffyrdd y gall gweithgarwch a manteision addysg uwch ac ymchwil gael eu rhannu â’r cyhoedd. Mae ymgysylltu, trwy ddiffiniad, yn broses ddwyffordd, sy’n cynnwys rhyngweithio a gwrando er mwyn ymgyrraedd at fantais gilyddol”.
Yn syml, ymgysylltu â'r cyhoedd yw'r ffordd yr ydym yn mynd ati i gynnwys y cyhoedd yn ein gwaith trwy ein hymchwil, ein haddysgu a'n hymgynghoriad.
Ni yw'r brifysgol gyntaf a'r unig brifysgol yng Nghymru i dderbyn y Nod Ymgysylltu Arian mawreddog gan yr NCCPE. Mae'r wobr yn cydnabod ein hymrwymiad cryf i ymgysylltu ac yn adlewyrchu sut mae ymgysylltu â'r cyhoedd a'r gymuned wrth wraidd y ffordd yr ydym yn cyflawni ein cyfrifoldebau dinesig.
Ein huchelgais
Ein nod yw ymgorffori ymgysylltiad y cyhoedd ar draws pob agwedd ar fywyd prifysgol. Rydym am i'n staff a'n myfyrwyr gael mynediad at y cymorth o'r ansawdd uchaf a gallu defnyddio'r cymorth hwnnw i integreiddio ymgysylltiad â'r cyhoedd a'r gymuned yn eu gwaith.
Pam mae ymgysylltu â'r cyhoedd yn bwysig?
Rydym am i'n cymunedau a'n partneriaid wybod ein bod yn rym er budd y cyhoedd, gan weithio gyda'n gilydd ar nodau cyffredin i greu atebion sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Rydym yn sicrhau bod blaenoriaethau ac anghenion y cyhoedd wrth wraidd ein hymchwil a'n strategaethau blaengar. Rydym yn annog ein staff, myfyrwyr, partneriaid busnes a diwydiant, a chymdogion cymunedol i weithio gyda'i gilydd, a rhannu’r mynediad i'n gwybodaeth a'n harbenigedd ymhell ac agos.
Wrth i ni barhau ar ein taith i gyflawni rhagoriaeth addysgu ac ymchwil, rydym yn creu cyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan mewn dysgu mewn cymunedau y tu hwnt i'r brifysgol. Mae ein staff a'n myfyrwyr yn creu ac yn ymuno â deialog gyhoeddus gyda chymunedau amrywiol i rannu canlyniadau ein hymchwil a chynhyrchu budd cymdeithasol.
Mae ymgysylltu â'r cyhoedd yn helpu i gysylltu gwaith y Brifysgol gyda’r gymdeithas i greu effaith ystyrlon. Mae ein gwaith yn ymestyn ar draws cymdeithas, gan effeithio ar bolisïau a gwasanaethau cyhoeddus yn ogystal â busnesau bach a mawr. Rydym yn annog sgyrsiau lle gallwn wrando ar yr anghenion o'n cwmpas ac addasu iddynt.
Pam mae ymgysylltu â'r cyhoedd yn bwysig ym maes addysg uwch?
Mae ymgysylltu â'r cyhoedd o bwysigrwydd strategol mawr yn y dirwedd Addysg Uwch. Mae'n golygu bod ein gwaith yn cael effaith ehangach a mwy, gan gael effaith gadarnhaol ar y Brifysgol a'r cynulleidfaoedd amrywiol yr ydym yn partneru â nhw.
Mae partneriaid ariannu mawr yn cynnwys ymgysylltu â'r cyhoedd fel agwedd hanfodol ar geisiadau grant sy'n agor cyfleoedd ariannu i wneud mwy o waith ochr yn ochr â'n cymunedau ar faterion sy'n bwysig iddyn nhw.
Mae'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) yn darparu dadansoddiad unigryw o ymchwil ar draws prifysgolion y DU. Mae REF yn dangos lle mae ymchwil yn sefyll o ran ansawdd ac allbwn ar y llwyfan domestig a byd-eang. Mae REF yn annog ymgysylltu cyhoeddus o ansawdd uchel ag ymchwil i ddangos yr effaith wirioneddol y mae ymchwil yn ei chael ar ein cymdeithas ac yn tynnu sylw at y manteision yn y byd go iawn a ddaw yn ei sgil. Darllenwch am lwyddiannau REF 2021 yma.