Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Gymreig

Rydyn ni'n sefydliad Cymreig sydd â golwg fyd-eang, gyda'r Gymraeg wedi'i gwreiddio yng ngwead ein sefydliad.

Rydyn ni wedi ymrwymo i hyrwyddo a dathlu'r Gymraeg yn ein holl weithgareddau, gan sicrhau ei bod wedi'i hymgorffori yn ein hunaniaeth, gweithrediadau, cymunedau a bywyd bob dydd mewn ffordd gynhwysol.

Ein huchelgais

people

Cynyddu nifer y myfyrwyr

Ein nod yw cynyddu'r nifer o fyfyrwyr Cymraeg a rhagori ar dargedau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer 5 neu 40 credyd cyfrwng Cymraeg y flwyddyn

academic-school

Addysgu ac Ymchwil

Ein nod yw gwella ein hunaniaeth unigryw trwy ddatblygu addysgu cyfrwng Cymraeg o ansawdd uchel a sefydlu cymuned ymchwil Gymraeg agored sy'n agored i'r cyhoedd.

location

Campws Cymraeg a Chynnig Caerdydd

Rydyn ni'n creu Campws Cymraeg i feithrin cymuned Gymraeg cadarnhaol a chynhwysol ar gyfer staff a myfyrwyr ac mae ein profiad myfyrwyr dwyieithog unigryw, Cynnig Caerdydd, yn ddeinamig ac uchelgeisiol

Gwyliwch fideo Bywyd Caerdydd, Bywyd Cymraeg

Rydyn ni'n cofleidio'r Gymraeg

Caerdydd yw prifddinas a chanolfan lywodraethol a gweinyddol democratiaeth Cymru, gyda'r Gymraeg a'r Saesneg fel ei hieithoedd swyddogol.

Mae’n ddinas ifanc, ddeinamig a byd-eang ei gorwelion, sydd wedi ei hadeiladu ar gymunedau mewnfudol o bob cwr o’r byd, pob cornel o’r DU, a thrwy Gymru benbaladr. Mae’r Gymraeg, y Saesneg a llu o ieithoedd rhyngwladol yn rhan annatod o’i hunaniaeth.

Enw ein strategaeth gynhwysol ar gyfer y Gymraeg yw Yr Alwad/Embrace It. Mae'n ymrwymiad ac yn wahoddiad, ac mae'n adeiladu ar fentrau, rhwydweithiau a gweithgareddau Cymraeg sydd eisoes ar waith.

Yr Alwad/Embrace It

Mae'r Strategaeth Gymraeg yn cynnig agenda diwylliannol a chymunedol diffiniedig, sy'n ategu ac yn gwella dyheadau ymchwil, addysgu a rhyngwladol cyffredinol y Brifysgol.

Mae'n ymgorffori, nid yn unig dargedau ar gyfer ein sefydliad, ond hefyd dyheadau llywodraeth a phobl Cymru, fel y mynegwyd yn Strategaeth y Gymraeg, Cymraeg 2050 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Rydyn ni'n datblygu ein gweithgareddau Cymraeg i gefnogi ein nodau sy'n ymwneud â chenhadaeth ddinesig, rhagoriaeth addysg, ymchwil, recriwtio, cynwysoldeb, cynaliadwyedd ac effaith gymdeithasol.

Ein strategaeth yw datblygu fel prifysgol ddwyieithog ac amlieithog, gan ein cysylltu â diwylliannau academaidd byd-eang a phwysleisio ein persbectif byd-eang.

Darllenwch ein Strategaeth Gymraeg

Rydyn ni'n sefydliad Cymraeg

Mae'r Gymraeg wedi'i gwreiddio yng ngwead ein prifysgol. Mae ein Campws Cymraeg - sy'n ymestyn i'r gymuned - yn dal ynghyd y gwahanol agweddau ar fywyd Cymraeg sy'n rhan o'n profiad fel myfyrwyr a staff o fewn a thu hwnt i'r Brifysgol.

Yr Academi Gymraeg

Dyma sefydliad o fewn Prifysgol Caerdydd sy’n cysylltu’r rhai sy’n ymwneud â’r Gymraeg – boed yn fyfyrwyr, yn staff neu’n rhanddeiliaid allanol.

Bydd yr Academi yn gweithio ar draws gwasanaethau addysgol, proffesiynol ac agweddau allgyrsiol yn y Brifysgol, gan adlewyrchu amcanion ehangach: sefydliad o Gymru sydd â golwg fyd-eang, mewn dinas gosmopolitaidd a chyfeillgar, amlieithog ac amlddiwylliannol.

Yr Academi Gymraeg

Dysgu mwy am yr Academi Gymraeg

Rydyn ni'n hyrwyddo'r Gymraeg

Er mwyn sicrhau bod y Gymraeg wedi'i hymgorffori yn ein hunaniaeth, ein gweithrediadau, ein cymunedau a’n harferion dydd i ddydd byddwn yn creu amgylchedd cynhwysol i'n holl staff a’n myfyrwyr.

Mae gennym mwy na 40 o Hyrwyddwyr y Gymraeg ymhlith ein staff.

Mae rôl Hyrwyddwr y Gymraeg yn cynnwys:

  • helpu i ddatblygu canllawiau sy'n cefnogi a hwyluso gwasanaethau dwyieithog effeithiol i staff, myfyrwyr a'r cyhoedd
  • hyrwyddo arferion gorau a chodi ymwybyddiaeth am faterion sy'n ymwneud â'r Gymraeg
  • cymryd rôl flaenllaw wrth gyfathrebu a datblygu cynlluniau gweithredu i bob adran yn y Brifysgol

Rydyn ni'n cynnig cyfleoedd i astudio yn Gymraeg

Mae gennym lawer o fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn astudio gyda ni a hyd at 65 o gyrsiau ymhlith ystod eang o bynciau, wedi'u dysgu'n llawn neu'n rhannol yn Gymraeg.

Gall myfyrwyr hefyd ddewis cael tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg neu i sefyll arholiadau yn Gymraeg.

Mae cangen Caerdydd o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn annog myfyrwyr a staff i ymuno a gwella eu sgiliau Cymraeg a bod yn rhan o'r gymuned.

Logo Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Rydyn ni'n ysbrydoli ac yn annog myfyrwyr a staff i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg a dod yn rhan o'n cymuned ddwyieithog ffyniannus.

Welsh students

Astudio yn y Gymraeg

Bydd dewis astudio yn Gymraeg yn ehangu eich gorwelion gyrfaol tra hefyd yn eich cyflwyno i fyd newydd yma a thu hwnt.

Annest o Dysgu Cymraeg Caerdydd

Dysgu Cymraeg Caerdydd

Mae Dysgu Cymraeg Caerdydd yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau Cymraeg i oedolion.