Ewch i’r prif gynnwys

Byddwn ni’n creu a rhannu gwybodaeth newydd ar y cyd, er mwyn cael byd gwell ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Byddwn ni’n gwneud hyn drwy:

  • Cynnig profiad addysgol rhagorol i fyfyrwyr o bob cefndir, ac ymrwymiad i ddysgu gydol oes hyblyg sy’n creu newid cadarnhaol.
  • Creu gwybodaeth newydd sy'n mynd i'r afael â'r heriau mawr, ac yn canfod atebion ar y cyd gyda chymunedau byd-eang a lleol.
  • Bod yn sefydliad hollbwysig yn ein dinas-ranbarth, sy’n darparu manteision diwylliannol, cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i Gaerdydd, Cymru a’r byd.

Cyflwyniad

Rydyn ni wedi creu ein gweledigaeth ar y cyd ar gyfer dyfodol Prifysgol Caerdydd, a hynny drwy ymgynghori a chydweithio ar Y Sgwrs Fawr. Gan ddefnyddio ein hanes, ein gwerthoedd, ein cryfderau, ein hadnoddau a’n rhwydweithiau yn sail i hyn oll, yn ogystal â thynnu ar ein harbenigedd academaidd a phroffesiynol, rydyn ni wedi llywio ein cyfeiriad strategol gyda’n gilydd.

Mae'r strategaeth hon yn nodi ein llwybr tuag at 2035.

Ein man cychwyn

Rydyn ni’n wynebu moment ddirfodol. Dydy’r model cyfredol ar gyfer prifysgolion bellach ddim yn addas i'r diben. Ledled y byd, mae sefydliadau tebyg i ni yn mynd i’r afael â disgwyliadau sy’n brysur newid, llai o incwm go iawn, cystadleuaeth newydd, newid o ran y demograffig, a diwylliannau a systemau y maen nhw wedi’u hetifeddu.

Yn hytrach na gadael i newid ddigwydd i ni, mae ein cymuned wedi bod yn rhagweithiol wrth ystyried pa fath o brifysgol rydyn ni am fod, ar gyfer pa fath o ddyfodol, a chytuno ar sut rydyn ni’n gwneud i hynny ddigwydd.

Rydyn ni’n glir ynghylch ein cyfrifoldebau i'n cymunedau ac i genedlaethau'r dyfodol. Rydyn ni’n deall ein bod yn wynebu degawd o newid cyflym. Bydd angen i ni fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth sy’n lleihau, gan weithio i atal y rhain, yn ogystal â llywio'r effaith y bydd newidiadau o ran perthnasoedd daearyddol-wleidyddol yn ei chael ar bartneriaethau presennol a newydd.

Bydd technolegau newydd yn llywio'r ffordd rydyn ni’n rhyngweithio â'n gilydd, sut rydyn ni’n dysgu ac yn addysgu, a'r gwaith rydyn ni’n ei wneud. Rydyn ni’n wynebu'r dyfodol gydag optimistiaeth ac yn ceisio cyfle o'r heriau sy’n ein hwynebu.

Cofio ble roedden ni

Mae ein gorffennol wedi cael effaith sylweddol ar ein llwybr i’r dyfodol. Ni oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru i ganiatáu i fenywod astudio, a’r sefydliad siartredig cyntaf yn y DU i gyflogi menywod yn athrawon.

Rydyn ni wedi sefyll ochr yn ochr â’n cymdogion yn y ddinas ers cenedlaethau, yng Nghymru a thu hwnt, gan roi croeso cynnes Cymreig i’r rhai sydd wedi’u dadleoli oherwydd rhyfel neu i’r rhai sydd angen noddfa.

Mae gwirfoddoli ac ymgyrchu gan fyfyrwyr yn thema bwysig o’n gorffennol, sy'n dangos ein traddodiad o alluogi rhyddid barn a dadlau, ac annog pobl i fod yn rhan o’r ddinas, yn ogystal â gweithredu drosti. Mae’r strategaeth hon yn ymgorffori ein hymrwymiad i ddarparu byd gwell ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, sy’n amlygu o’r newydd ein hanes blaengar.

Athro benywaidd ac ymgeisydd seneddol cyntaf Cymru, yr Athro Mackenzie, 1863–1942

Ein gweledigaeth

Erbyn 2035, rydyn ni eisiau gwneud y canlynol:

  • Cael ein cydnabod yn fyd-eang am fod ar flaen y gad ym maes ymchwil ac arloesi, a hynny ar sail ein ‘cryfder mewn lleoedd’. I ddechrau, bydd hyn drwy ragoriaeth drosiadol yn y diwydiannau creadigol a gweithgynhyrchu uwch (lled-ddargludyddion cyfansawdd).
  • Denu myfyrwyr o bob oed a chefndir sy’n dysgu mewn ystod o ffyrdd, gan ddefnyddio’r addysgeg orau wedi’i galluogi gan ddarpariaeth hyblyg ac arloesi digidol.
  • Cael ein dewis gan gyn-fyfyrwyr, partneriaid ac arianwyr rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang sy'n ceisio prifysgol sy’n ddewr o ran sut mae’n wynebu’r dyfodol.
  • Bod yn bartner hollbwysig gwerthfawr a gweithgar yn ein dinas-ranbarth, gan ysgogi cynnydd sylweddol ym Mharth Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r Ganolfan Gwyddorau Iechyd Academaidd.
  • Bod yn gyflogwr ac addysgwr delfrydol, gyda gweithlu a myfyrwyr llewyrchus a rhyngwladol sydd hefyd yn cynrychioli amrywiaeth ein dinas-ranbarth.

Byddwn ni wedi:

  • Helpu i ddatrys heriau mawr mewn meysydd megis newid yn yr hinsawdd, bioamrywiaeth, iechyd, diogelwch, cynaliadwyedd a chyfiawnder cymdeithasol.
  • Amrywio ein hincwm, gan gynnal ein hunain yn ariannol gyda mwy o refeniw masnachol o'n hymchwil a’n hystad, ffynonellau amrywiol o incwm ymchwil ac addysgu, a chynnydd o ran dyngarwch.
  • cael effaith economaidd a chymdeithasol sylweddol ar Gaerdydd a Chymru.
  • sefydlu rhwydwaith o bartneriaethau addysg trawswladol, dwy ffordd, datblygedig ledled y byd.
  • datblygu campws dinesig llai, o ansawdd uchel, sy'n wyrdd, yn greadigol ac yn agored, gan gyd-fyw a chydleoli â chymunedau a phartneriaid.
Wide shot of university building with staff sitting on stairs

Ein Blaenoriaethau Strategol

Byddwn ni’n defnyddio ein hanes, ein gwerthoedd a’n cryfderau yn sail i greu’r dyfodol ar y cyd, a hynny drwy ein diwylliant, ein lle, ac effaith ein hymchwil a’n haddysg. Byddwn ni’n dod yn brifysgol ddinesig fyd-eang wych, sydd â’i gwreiddiau yn ein pobl a’n dinas-ranbarth, ac sy’n agored i'r byd.

Blaenoriaeth 1: Diwylliant, Cynefin a Chymuned

Bydd ein prifysgol yn lle anhygoel i ymchwilio, addysgu, dysgu, astudio a chreu ynddo, gan feithrin yr amodau sy'n caniatáu i ragoriaeth ffynnu y tu hwnt i ffiniau, gan alluogi chwilfrydedd ac uchelgais. Byddwn ni’n cefnogi pob aelod o'n cymuned i ffynnu.

Byddwn ni’n croesawu a derbyn pobl am bwy ydyn nhw – cymuned lle rydyn ni’n adnabod ac yn gwerthfawrogi ein gilydd ac yn deall yr hyn sy’n bwysig i ni.

Byddwn ni’n gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn cymryd y camau angenrheidiol i fod yn brifysgol wirioneddol gynhwysol, sy’n gadarn yn ein dwyieithrwydd, ac yn wrth-hiliol. Mae 'Cynefin' yn faen prawf i ni – lle mae pobl yn teimlo eu bod yn perthyn. Byddwn ni’n gweithio gyda'n gilydd, gan adael neb ar ôl. Byddwn ni’n glir o ran ein disgwyliadau o'n gilydd ac yn dilyn blaenoriaethau mae pawb yn eu rhannu.

Bydd ein gwerthoedd a’n gwaith yn cyd-fynd â phrifysgol sy’n gymdeithasol gyfrifol, sy’n ymdrechu i wneud Caerdydd, Cymru a’r byd yn lle gwell. Bydd yr hyn rydyn ni’n ei wneud, a'n hymddygiad yn ennyn ymddiriedaeth a pharch gan eraill, gan ysbrydoli myfyrwyr a staff i fod yn hyrwyddwyr gydol oes. Bydd gennyn ni agwedd gadarnhaol er mwyn gwneud gwahaniaeth a bod ymhlith y goreuon.

Blaenoriaeth 2: Lle llewyrchus llawn addewid

Prifysgol brifddinas ydyn ni; yn sefydliad sy’n hollbwysig i Gaerdydd a Chymru, sy’n ymgorffori Cymreictod ac yn cofleidio’r Gymraeg, ac sy’n falch o’n treftadaeth. Rydyn ni’n dathlu bod yn amlddiwylliannol ac amlieithog, yn tynnu ynghyd y meddyliau gorau o bob rhan o'r byd ac yn meithrin doniau cartref.

Rydyn ni’n rhan annatod o ddinas amlddiwylliannol, ddwyieithog, greadigol y gallwn ni fyw ynddi, a byddwn ni’n gweithio gydag eraill i sicrhau bod Caerdydd yn ddinas wych i weithio, astudio, byw ac ymweld â hi. Byddwn ni’n agored i'n partneriaid - yn lleol, yn genedlaethol, ac yn fyd-eang - a bydd ‘croeso’ bob amser i unrhyw sydd eisiau ymwneud â ni.

Byddwn ni’n fwy gweladwy ac yn bresennol mewn cymunedau amrywiol, gan adael i wybodaeth deithio i'r ddau gyfeiriad, a thrwy rannu ein hadeiladau a'n hadnoddau. Bydd Caerdydd a Chymru’n cael eu hadlewyrchu ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud, o’n hagwedd, ein timau, a’r hyn rydyn ni’n buddsoddi ynddo, i’n cyfleusterau, ein partneriaethau, ein gwaith ar y cyd, a’n heco-systemau. Byddwn ni’n cysylltu Caerdydd a Chymru â'r byd trwy gysylltiadau buddiol i'r ddwy ochr a pherthnasoedd byd-eang sydd o fudd i bob un ohonon ni.

Byddwn ni’n meithrin symudedd cymdeithasol ac effaith economaidd, gan greu gweithlu medrus iawn, a defnyddio blaenoriaethau ymchwil ac arloesi ar y cyd yn sail i hyn. Byddwn ni’n annog entrepreneuriaeth ymhlith ein staff, ein myfyrwyr a’n cyn-fyfyrwyr, gan greu cwmnïau deillio, a masnacheiddio ein hymchwil i greu busnesau a swyddi newydd. Bydd staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Caerdydd yn llysgenhadon byd-eang dros ysbryd Cymreig o newid sydd wedi'i wreiddio'n ddwfn mewn lle a chymuned.

Byddwn ni’n gwella ein campysau, eu cynaliadwyedd, a’r profiad y mae pawb yn ei rannu o fod yma. Mae hynny'n golygu cymryd o ddifrif her newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth sy’n lleihau, mynd i'r afael â'n hôl troed carbon, gwella ein seilwaith gwyrdd, ac addasu ein hadeiladau i'n galluogi i weithio'n well gyda'n gilydd. Byddwn ni’n buddsoddi mewn dulliau ffisegol a digidol o’r radd flaenaf ar gyfer ymchwil ac arloesi, addysg, a’n gwaith.

Blaenoriaeth 3: Creu dyfodol ar y cyd

Byddwn ni’n cydweithio wrth i ni greu dyfodol ar y cyd gyda'n staff, ein myfyrwyr, ein cyn-fyfyrwyr a’n partneriaid. Byddwn ni’n hyblyg, yn arloesol ac yn esblygu'n barhaus. Gyda’n gilydd byddwn ni’n addasu i fyd sy’n newid, a delio ag ansicrwydd. Byddwn ni’n mabwysiadu agwedd fyd-eang, gan weithio i sefydlu partneriaethau rhyngwladol sy'n wirioneddol weithio’r ddwy ffordd.

Bydd y dyfodol ar flaen ein meddwl ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud, a byddwn ni’n paratoi ar ei gyfer ac yn mynd ati’n weithredol i’w lunio wrth gynnal y gwaith hwnnw. Yn ein huno bydd cenhadaeth i ail-lunio, gwella ac adnewyddu’r hyn sy’n bosibl nid yn unig ar gyfer yfory, ond ymhell y tu hwnt iddo.

Bydd ein chwilfrydedd deallusol a dwyster ein hymchwil yn creu dealltwriaeth ddwfn y byddwn ni’n arloesi ohoni. Bydd hyn yn cynnal a sicrhau’r dyfodol, cyfoethogi bywydau, cefnogi uniondeb cymdeithasol, arloesi gwerthoedd cyhoeddus, ymgorffori Iechyd Cyfunol, galluogi lles corfforol a meddyliol, sbarduno datgarboneiddio a datblygu technolegau trawsnewidiol newydd.

Byddwn ni’n fyd-enwog am yr effaith rydyn ni’n ei chael a’n cryfderau ymchwil sylfaenol, gan weithio gydag eraill i feithrin dealltwriaeth a chanfod atebion ymhell y tu hwnt i’r hyn y mae modd ei gyflawni ar ein pen ein hunain.

Byddwn ni’n cynnig dysgu gydol oes hyblyg, wedi'i deilwra, i'n myfyrwyr sy'n rhoi dewisiadau, llais a’r gallu iddyn nhw. Byddwn ni hefyd yn darparu gwybodaeth a sgiliau sy'n addas ar gyfer y dyfodol y gallan nhw eu defnyddio yn y byd go iawn i gyflawni eu dyheadau. Byddwn ni’n addysgu ein myfyrwyr mewn ffordd sy’n eu datblygu ymhellach i fod yn wydn, yn feirniadol, ac yn gallu datrys problemau. Byddan nhw’n rhoi newid ar waith ac yn gwybod sut i gydweithio mewn byd sy’n ansicr a rhyngddisgyblaethol, sy’n cwmpasu sawl sector, ac sydd wedi'i ddigideiddio.

Byddwn ni’n helpu pobl o bob cefndir i drawsnewid eu bywydau, eu lle, a’u cymdeithas, a bydd ganddyn nhw berthynas gydol oes â’n myfyrwyr a’n cyn-fyfyrwyr, ac ymrwymiad iddyn nhw.

Sut gallwn ni wireddu hyn?

Mae pedwar dull a fydd yn ein llywio tuag at ein dyfodol:

Cyflawni'n effeithlon

Bydd gennym bwyslais cryf ar flaenoriaethu, gweithredu ac eglurder. Byddwn yn symleiddio prosesau llywodraethu, yn lleihau llwyth gwaith, biwrocratiaeth a dyblygu, ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau. Byddwn yn dryloyw ynghylch y penderfyniadau a wnawn a'r rhesymau a wnawn.

Byddwn ni’n gwneud pethau unwaith, yn y lle iawn, ar yr amser iawn a gan y bobl iawn Ein nod yw profiad di-dor, personol, syml i fyfyrwyr a staff.

Byddwn ni’n defnyddio data, gwybodaeth ac awtomeiddio, ac yn arwain y sector yn ein harferion digidol o ran cyflawni gweithredol a phrofiadau myfyrwyr a staff

Mae enghreifftiau o'r camau y byddwn ni’n eu cymryd yn cynnwys:

  • mynd ati o safbwynt sefydliadol Prifysgol gyfan, sy'n symleiddio swyddogaethau, rolau a chyfrifoldebau
  • digideiddio ac awtomeiddio o fewn gwasanaethau proffesiynol allweddol, gan gynnwys ymchwil ac addysg
  • cyflwyno dull newydd o sicrhau llwyddiant myfyrwyr (seiliedig ar ddata, personol, proffesiynol)
  • gwneud y mwyaf o’n hystadau, eu potensial masnachol, ac wrth eu datgarboneiddio, gan weithio ar y cyd â’n partneriaid yn y ddinas.

Gweithio ar y cyd

Mabwysiadu ethos rhyngddisgyblaethol a thraws-sefydliadol, gan fod yn fwy agored a gweithio’n rhan o bartneriaeth ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud Byddwn ni’n disodli systemau gweithio ar wahân yn fewnol ac yn allanol. Byddwn ni’n lleoli disgyblaethau, academyddion a gwasanaethau proffesiynol ar y cyd, gyda ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys gyda'n partneriaid a chymunedau amrywiol Bydd staff a myfyrwyr yn dylunio profiad myfyrwyr y dyfodol ar y cyd.

O ran ein dull arwain, byddwn ni’n cymryd rhan a chynnwys pawb, a byddwn ni’n defnyddio ein prifysgol yn 'labordy byw' i ddiffinio ein heriau ar y cyd a chydweithio i ganfod atebion.

Mae enghreifftiau o'r camau y byddwn ni’n eu cymryd yn cynnwys:

  • cymell rhyngddisgyblaeth yn ein hymchwil a’n haddysg, ac wrth arloesi
  • gweithio gyda phartneriaid allanol a chyn-fyfyrwyr i wella masnacheiddio, ymchwil drosi, entrepreneuriaeth ac ymgysylltu dinesig
  • datblygu Ysgol Graddedigion prifysgol gyfan a rhaglenni addysgu ac ymchwil ôl-raddedig rhyngddisgyblaethol sy’n cyd-fynd â’i gilydd
  • Gweithio gyda myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a phartneriaid i wella profiad cyfan myfyrwyr (gan gynnwys pontio, lles, cynhwysiant a llety)
  • mabwysiadu agwedd 'creu lleoedd' i'n hadeiladau a'n campysau yn y dyfodol

Rhoi’r grym yn nwylo staff a myfyrwyr

Byddwn ni’n rhoi’r grym yn nwylo ein staff a’n myfyrwyr, gan greu diwylliant o ymddiried, tryloywder ac atebolrwydd y mae pawb yn ei rannu. Byddwn ni’n amddiffyn ac yn hyrwyddo rhyddid academaidd. Byddwn ni bob amser yn ceisio gwella ein gweithgareddau'n barhaus. Byddwn ni’n dathlu ein cyflawniadau a'n llwyddiannau, gan fod yn glir ynghylch ein disgwyliadau o ran perfformiad, agweddau ac ymddygiad. Byddwn ni’n mynd ati’n rhagweithiol i greu cymuned a dathlu amrywiaeth. Byddwn ni’n lle gwych i gael addysg a gosod y seiliau ar gyfer gyrfa.

Mae enghreifftiau o'r camau y byddwn ni’n eu cymryd yn cynnwys:

  • Dulliau newydd o recriwtio, cadw staff, perfformiad a dyrchafiad sy’n sicrhau amrywiaeth ein prifysgol ac yn cefnogi ein dyheadau strategol, gan ddenu’r staff a’r myfyrwyr gorau oll i wireddu eu dyheadau nhw gyda ni.
  • Datblygu cyfleoedd i staff a myfyrwyr symud ar draws sefydliadau a sectorau, gan wneud ein prifysgol yn fwy agored, a’n staff a’n myfyrwyr yn fwy cysylltiedig.
  • Gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr i ymgysylltu’n well â’n cymuned gynyddol amrywiol o fyfyrwyr.
  • Dilyn a hyrwyddo rhaglenni gwaith a chynlluniau gweithredu Nod Siarter.

Bod yn uchelgeisiol

Rydyn ni’n sefydliad hyderus sydd eisiau bod y gorau un. Byddwn ni’n ymdrechu i sicrhau ansawdd, ac rydyn ni eisiau cael ein sgorio ymhlith prifysgolion mwyaf blaenllaw'r byd. Byddwn ni’n glir ynghylch ein cryfderau ymchwil ac addysg, ac yn gweithio’n rhan o bartneriaeth â’n dinas-ranbarth, gweddill Cymru, y GW4 a sefydliadau ledled y byd i ategu’r rhain.

Byddwn ni’n datblygu model busnes cynaliadwy sy’n golygu ein bod yn creu gwarged i’w ail-fuddsoddi mewn gweithgarwch craidd, ac yn ceisio ffynonellau incwm amrywiol, gan groesawu modelau ariannu’r dyfodol a dyngarwch, ac ymateb i ddemograffeg myfyrwyr sy’n newid.

Mae enghreifftiau o'r camau y byddwn ni’n eu cymryd yn cynnwys:

  • Datblygu'r genhedlaeth nesaf o ganolfannau ymchwil ac arloesi sy’n aflonyddu mewn ffordd gadarnhaol, gyda llwybrau i gefnogi twf a chynhwysiant, a hynny er mwyn cyflymu gwaith ar y cyd a phartneriaethau cryf sy'n cael eu sbarduno’n fras gan:
    • Iechyd Cyfunol
    • Arloesi cymdeithasol a diwylliannol
    • Cynaliadwyedd a thrawsnewid technolegol
  • Datblygu ac addysgu cwricwlwm nodedig i greu newid, wedi’i ategu gan ddulliau cyflawni ac addysgeg sy’n canolbwyntio ar y dyfodol. Bydd hyn yn sicrhau mwy o interniaethau, lleoliadau, cyfleoedd profiad gwaith a rhannu sgiliau i fyfyrwyr gan gyflogwyr ac mewn cymunedau
  • Creu portffolio o gynigion addysgol newydd, gan gynnwys mentrau addysg dysgu gydol oes hyblyg, modiwlaidd, a mentrau addysg trawswladol o ansawdd uchel y mae’r naill barti yn elwa ohonyn nhw.
  • Meithrin systemau newydd ar gyfer entrepreneuriaeth ymhlith ein staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr, gan feithrin cwmnïau deillio a masnacheiddio ein hymchwil, gan greu busnesau a swyddi newydd.
  • Sefydlu menter y Dyfodol a Rhaglen Cymrodoriaeth ar Ddechrau Gyrfa gysylltiedig sy'n gosod ein prifysgol yn safle allweddol ar gyfer creu dyfodol mwy cyfiawn, cynaliadwy a chynhwysol.

Dull Cyflwyno

Bydd y strategaeth hon yn cael ei chyflwyno mewn tri cham dros gyfnod o amser.

Mae’r gweithgareddau a fydd yn cyflawni'r Strategaeth i’w gweld yn y Cynllun Trawsnewid, sy’n rhoi rhagor o fanylion am bob un o'r Camau. Bydd y Cynllun Trawsnewid wedi’i drefnu’n ffrydiau gwaith, a bydd Bwrdd Gweithredol y Brifysgol yn goruchwylio'r Rhaglen Drawsnewid gyfan.

Close up of Main building with blue sky