Ewch i’r prif gynnwys

Ein strategaeth

Rydyn ni wedi creu ein gweledigaeth ar y cyd ar gyfer dyfodol Prifysgol Caerdydd, a hynny drwy ymgynghori a chydweithio gyda staff a myfyrwyr.

Gan adeiladu ar ein hanes, gwerthoedd, cryfderau, adnoddau a rhwydweithiau, a thynnu ar ein harbenigedd academaidd a phroffesiynol, rydyn ni wedi datblygu ein cyfeiriad strategol, gyda'n gilydd. Mae 'Ein dyfodol, gyda'n gilydd' yn cadarnhau ein taith hyd at 2035.

Darllenwch ein strategaeth

Mae cryfder y sefydliad yma'n gorwedd yn ei ddoethineb ar y cyd â'n synnwyr cyffredin o bwrpas. Datblygwyd ein strategaeth newydd 'Prifysgol Caerdydd: Ein dyfodol, gyda'n gilydd' drwy gydweithio, ymgynghori a defnyddio ein talent a'n harbenigedd – ac rwyf wedi ymrwymo i barhau i ymgysylltu'n rhagweithiol a defnyddio ein harbenigedd academaidd a phroffesiynol wrth i ni ei weithredu.

Yr Is-Ganghellor, yr Athro Wendy Larner