Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol noddfa

Students from the STAR society at the Refugee Rhythm event
Myfyrwyr o gymdeithas STAR yn y digwyddiad Refugee Rhythm. Llun gan Noah

Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod ein prifysgol yn lle diogel a chroesawgar ar gyfer ymfudwyr dan orfod a cheiswyr lloches.

Mae ein campws yn cynnig diwylliant amrywiol a gwirioneddol ryngwladol sy'n denu'r myfyrwyr a'r staff gorau o bob cwr o'r byd. Mae mwy na 7,000 o fyfyrwyr rhyngwladol o fwy na 100 o wledydd bellach yn galw Caerdydd yn gartref iddyn nhw.

Cefnogi Addewid Sefydliad y Ddinas Noddfa

city of sanctuary supporting organisation

“Rydym yn cefnogi gweledigaeth ‘Dinas Noddfa’ y bydd y DU yn fan diogel croesawgar i bawb ac yn falch o gynnig noddfa i bobl sy’n ffoi rhag trais ac erledigaeth.

Rydym yn cymeradwyo Siarter Dinas Noddfa ac yn cytuno i weithredu yn unol â gwerthoedd Dinas Noddfa a chymhwyso egwyddorion y rhwydwaith yn ein gwaith (cyn belled ag y mae ein cyd-destun penodol yn ein galluogi i wneud hynny).

Rydym yn cydnabod cyfraniad pobl sy’n ceisio noddfa. Mae ceiswyr lloches yn cael eu croesawu, eu cynnwys a’u cefnogi o fewn ein cyd-destun. Disgwyliwn i’n canghennau neu grwpiau lleol (os o gwbl) gefnogi eu grŵp Dinas Noddfa lleol os oes un, a byddwn yn hwyluso cyswllt rhyngddynt a’u grŵp Dinas Noddfa lleol.”

Prifysgol Noddfa

Dyfarnwyd statws Prifysgol Noddfa i Brifysgol Caerdydd, sef cynllun sy'n cydnabod arferion da prifysgolion wrth groesawu, cefnogi a grymuso pobl sy'n ceisio noddfa.

Mae'r statws hwn yn hybu diwylliant o groeso, ac yn dod â gwaith presennol at ei gilydd i gefnogi ymfudwyr dan orfod a cheiswyr lloches, yn ogystal â datblygu cymorth i bobl sydd bellach wedi'u dadleoli.

Mae ein gweithgor ar y Brifysgol Noddfa yn cynnwys myfyrwyr a staff sy'n gyfrifol am gasglu gwybodaeth am ein gwaith presennol yn y maes hwn.

Gwobr cyfle ceiswyr lloches

Mae ein Gwobr Cyfle Ceiswyr Lloches yn cynnig 6 gwobr i’n darpar fyfyrwyr sy’n ceisio lloches ac sy’n edrych i fod yn fyfyrwyr ar gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig cymwys.

Cefnogi bywyd myfyriwr

Mae gennym aelodau penodol o staff yn y gwasanaethau Bywyd Myfyrwyr fydd yn rhoi cyngor arbenigol a chymorth cwnsela. Mae'r staff yn gweithio yng nghyfleuster newydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr.

Caplaniaeth, ffydd a chrefydd

Rydym yn darparu lle ar gyfer cyfeillgarwch, lletygarwch, myfyrio, gweddi, cefnogaeth a deialog, gan gynnig cyfleoedd i chi ymgysylltu’n gymdeithasol ac archwilio ffydd ac ysbrydolrwydd. Cwrdd â'n caplaniaid.

Ehangu cyfranogiad ac allgymorth

Rydym yn cynnig ystod eang o raglenni a digwyddiadau allgymorth sydd wedi'u cynllunio i chwalu'r rhwystrau i addysg uwch ac i'ch cefnogi ar hyd eich taith addysgol. Rydyn ni yma i gefnogi eich taith i'r brifysgol.

Ein rôl yw hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant trwy gefnogi myfyrwyr o grwpiau penodol i gael mynediad i brifysgol a pharatoi ar ei chyfer. Rydym yn cydnabod y manteision y gall cymuned o fyfyrwyr amrywiol a thalentog eu cynnig.

Gallwn gynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i chi ar gyfer eich cais prifysgol, ac awgrymiadau i'ch helpu i baratoi ar gyfer y brifysgol.

Darllenwch ragor am ein strategaeth ehangu cyfranogiad sy'n canolbwyntio ar ddatblygu diwylliant croeso.

Cyngor Academyddion Mewn Perygl (CARA)

Gellir olrhain ein hanes hir o gefnogi ffoaduriaid yr holl ffordd yn ôl i 1914 pan gyrhaeddodd grŵp o 300 o ffoaduriaid o Wlad Belg Gaerdydd. Mae ein harchifau sefydliadol yn dangos bod staff yr Adran Addysg wedi rhoi addysg, cyflenwadau, a hyd yn oed barti Nadolig i’r plant a wnaeth y ddinas yn briod gartref iddyn nhw – ac mae llawer yn byw gyda thrigolion lleol.

Heddiw rydyn ni’n falch o roi cefnogaeth hirsefydlog i'r Cyngor Academyddion Mewn Perygl (CARA). Mae ein gwaith yn parhau drwy eu Cymrodoriaethau Ymchwilwyr mewn Perygl, sy’n cael eu trefnu ar y cyd ag Academïau Cenedlaethol y DU.