Hanes y Brifysgol
Agorodd y Brifysgol ei drysau ar 24 Hydref 1883 ac fe'i sefydlwyd yn ffurfiol drwy Siarter Brenhinol ym 1884.
Ein henw oedd Coleg Prifysgol De Cymru a Mynwy ac roeddem ni'n fach iawn i gymharu â'n maint ni heddiw. Yn y Coleg roedd:
- 13 staff academaidd
- 12 adran
- 102 myfyriwr gradd llawn amser
- 49 myfyriwr rhan amser.
Ym 1893 ni oedd un o'r sefydliadau a sefydlodd Prifysgol Cymru gan ddechrau dyfarnu ei graddau hi. Erbyn 1972 ein henw oedd Coleg y Brifysgol, Caerdydd.
Uno
Unwyd Coleg y Brifysgol gyda Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru (UWIST) ym 1988. Ym 1999 newidiodd enw cyhoeddus y Brifysgol i 'Prifysgol Caerdydd.'
Yn 2004 cafwyd uniad arall, gyda Choleg Meddygaeth Prifysgol Cymru. Roedd y Coleg Meddygaeth yn rhan o'r Brifysgol wreiddiol, ond roedd wedi gadael ym 1931, felly ailuno oedd hwn.
Ym mis Rhagfyr 2004 cymeradwyodd y Cyfrin Gyngor Siarter Atodol newydd yn caniatáu statws Prifysgol i ni. Newidiodd ein henw cyfreithiol i 'Prifysgol Caerdydd'. Rydym ni bellach yn annibynnol oddi wrth Brifysgol Cymru.
Dyfarnwyd graddau Prifysgol Cymru i fyfyrwyr a ddechreuodd eu cwrs cyn 2005. Ers hynny rydym ni'n dyfarnu graddau Prifysgol Caerdydd i'n myfyrwyr.
Arfbais
Caniataodd Coleg yr Arfau ein harfbais ym 1988 ar ôl uno gydag Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru.
Mae'r arfbais yn cynnwys 'cynheiliaid'. Anaml iawn y caiff y rhain eu caniatáu i brifysgolion ym maes herodraeth. Daw'r angel a'r ddraig o arfbeisiau'r sefydliadau a unwyd.
Yr arwyddair "Gwirionedd, Undod a Chytgord" yw geiriau olaf y weddi dros yr Eglwys Filwriaethus yn Llyfr Gweddi Cyffredin 1662.