Ewch i’r prif gynnwys

Dirprwy Is-ganghellor, Rhyngwladol

Yr Athro Rudolf Allemann FRSC, FLSW
Rhag Is-Ganghellor Rhyngwladol, Yr Athro Rudolf Allemann FRSC, FLSW

Yr Athro Rudolf Allemann yw'r Dirprwy Is-Ganghellor Rhyngwladol.

Yr Athro Allemann sy'n gyfrifol dros weithgareddau a phartneriaethau rhyngwladol y Brifysgol, recriwtio myfyrwyr a rheolaeth ac arweinyddiaeth gyffredinol Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. Ag yntau'n Rhag Is-Ganghellor, mae hefyd yn aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol.

Ers ymuno ag Ysgol Cemeg y Brifysgol yn 2005, mae'r Athro Allemann wedi bod yn Athro Ymchwil Nodedig.

Ar ôl cwblhau ei waith PhD ym Mhrifysgol Harvard ac Eidgenössische Technische Hochschule (ETH) yn Zurich, dechreuodd yr Athro Allemann ei yrfa fel ymchwilydd ôl-ddoethurol a Gwyddonydd Staff yn Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Feddygol y Cyngor Ymchwil Feddygol yn Mill Hill ar gyrion Llundain.

Aeth yr Athro Allemann ymlaen i fod yn ddarlithydd ac yn Arweinydd Grŵp Ymchwil yr Adran Cemeg yn ETH yn Zurich. Ym 1998, symudodd yr Athro Allemann i Brifysgol Birmingham i fod yn Uwch-ddarlithydd Cemeg, cyn ymgymryd â rôl Athro Bioleg Gemegol yn 2001.

Rhwng 2013 a 2017, yr Athro Allemann oedd Pennaeth yr Ysgol Cemeg.

Cyfrifoldebau

Mae cyfrifoldebau penodol yr Athro Allemann yn cynnwys datblygu:

  • strategaethau'r Brifysgol o ran rhyngwladoli
  • prosesau recriwtio a derbyn myfyrwyr Cartref, myfyrwyr o'r UE a myfyrwyr rhyngwladol
  • strategaeth a chyfeiriad Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, yn hyrwyddo datblygiad dysgu ac addysgu a rhagoriaeth ymchwil.

Ysgolion Academaidd

Mae saith Ysgol yn rhan o Goleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg:

Ymchwil

Mae grŵp ymchwil yr Athro Allemann yn defnyddio amrywiaeth eang o dechnegau cemegol a ffisegol i ateb cwestiynau ynglŷn â phŵer catalytig anhygoel ensymau.

Mae ein gwaith ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar gemeg terpene synthase a sut y gellir defnyddio'i bioleg fiodechnolegol a synthetig i wneud cemegau gwerth uchel. Gellir defnyddio'r rhain ym maes iechyd ac amaethyddiaeth, wrth gysylltu dynameg protein a phŵer ensymatig, a chynhyrchu adnoddau sy'n ymateb i oleuni er mwyn dechrau a rheoli prosesau biolegol yn y labordy ac mewn celloedd byw. Mae eu gwaith yn dibynnu ar ddull rhyngddisgyblaethol, lle mae cemeg yn gorgyffwrdd â meysydd bioleg, ecoleg gemegol, gwyddoniaeth deunyddiau, meddygaeth a ffiseg.

Mae'n ymgysylltu â'r cyfryngau cymdeithasol a thorfol i gyflwyno gwyddoniaeth i gynulleidfa cyhoeddus ehangach, yn enwedig y rhai nad ydynt yn rhyngweithio â gwaith academaidd fel arfer.

Aelodaeth a gwobrau

Cymhwyso mewn Bioleg Gemegol gan ETH-Zurich.

Mae'r Athro Allemann yn Gymrawd o'r Gymdeithas Cemeg Frenhinol, ac yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Mae hefyd yn Athro Gwadd ym Mhrifysgol Manceinion.

Manylion cyswllt

Ar gyfer materion yn ymwneud â Dirprwy Is-ganghellor, Rhyngwladol

Samantha Scanlon