Ewch i’r prif gynnwys

Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr

Claire Morgan yw Dirprwy Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr
Dirprwy Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, Claire Morgan

Claire Morgan yw'r Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr.

Mae hi’n gyfrifol am bortffolio dysgu ac addysgu’r Brifysgol, ei rhaglenni astudio, ei safonau academaidd ac ansawdd profiad y myfyrwyr. Fel Rhag Is-Ganghellor, mae Claire hefyd yn aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol.

Cyfrifoldebau

Mae ei chyfrifoldebau penodol yn cynnwys:

  • goruchwylio’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno ein strategaeth addysg
  • prosesausicrhau ansawdd ar gyfer rhagoriaeth mewn safonau academaidd
  • gwella profiad myfyrwyr
  • ehangu gweithgareddau mynediad a chyfranogiad.

Dysgu ac addysgu

Ail-ymunodd Claire â Phrifysgol Caerdydd yn 2019 fel Cyfarwyddwr Canolfan Arloesedd a Chefnogaeth Addysg (CESI) y Brifysgol, lle bu'n arwain timau dylunio'r cwricwlwm, datblygu academaidd, addysg ddigidol ac ymgysylltiad myfyrwyr.

Mae gan Claire gefndir academaidd mewn Economeg. Mae hi’n gyfarwydd â Phrifysgol Caerdydd gan iddi gael swyddi blaenorol yma yn Ddeon Cyswllt ar gyfer Ansawdd yng Ngholeg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, ac yn Ddeon Cyswllt Ysgol Busnes Caerdydd.

Yn fwy diweddar, roedd yn Ddeon Dysgu ac Addysgu academaidd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, lle'r oedd yn arweinydd strategol ar gyfer dysgu, addysgu ac ansawdd.

Yn 2017 cafodd hi Brif Gymrodoriaeth yr Awdurdod Addysg Uwch (AdvanceHE erbyn hyn), i gydnabod ei heffaith strategol mewn perthynas â dysgu ac addysgu, a'i hymrwymiad ehangach i ragoriaeth mewn ymarfer academaidd.

Aelodaeth

Penodwyd Claire gan Ysgrifennydd y Cabinet i Fwrdd Cymwysterau Cymru, sy'n rheoleiddio pob cymhwyster heb radd yng Nghymru, yn ogystal â bod yn Adolygydd Addysg Uwch academaidd cymwysedig ar gyfer yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd. Hi yw Dirprwy Gadeirydd y Bwrdd, ac mae hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Rheoliadau.

Mae Claire yn aelod o Bwyllgor Ymgynghori Strategol QAA ac mae wedi bod yn adolygwr academaidd QAA ers 2012.  Mae wedi ymrwymo i gydweithio’n ehangach â myfyrwyr, ac mae hefyd yn Gadeirydd WISE Wales, sef grŵp traws-sector sy'n cefnogi partneriaethau myfyrwyr ledled AU ac AB yng Nghymru.

Manylion cyswllt

Cynorthwy-ydd Personol

Steve Nagle