Rhag Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Yr Athro Urfan Khaliq yw Rhag Is-Ganghellor a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.
Yr Athro Khaliq sy'n gyfrifol am reolaeth ac arweinyddiaeth gyffredinol y Coleg. Mae’n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o bennu strategaeth a chyfeiriad y Coleg, ac o hyrwyddo datblygiad dysgu ac addysgu a rhagoriaeth ymchwil. Ac yntau’n Rhag Is-Ganghellor, mae’r Athro Khaliq yn aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol hefyd.
Ers ymuno â Phrifysgol Caerdydd ym 1995, mae'r Athro Khaliq wedi cael sawl swydd uwch, gan gynnwys Cyfarwyddwr Ymchwil (Y Gyfraith), Pennaeth y Gyfraith, Cyfarwyddwr Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ac, yn fwyaf diweddar, fel Pennaeth Ysgol.
Cymhwysodd fel Eiriolwr Uchel-Lys Punjab, Pacistan yn 2004 gan ddarparu cyngor cyfreithiol pro bono i blant stryd sy'n gwrthdaro â'r gyfraith yn ogystal â helpu gyda'r hyfforddiant yng nghyfraith hawliau dynol rhyngwladol barnwriaeth a phroffesiwn cyfreithiol Pacistan.
Mae cyhoeddiadau diweddaraf yr Athro Khaliq yn cynnwys The Achievements of International Law: Essays in Honour of Robin Churchill, a bu'n gyfrannwr a golygydd ar eu cyfer, a Jurisdictional Exceptionalisms: Islamic Law, International Law and Parental Child Abduction, rhan o gyfres ‘Law in Context’. Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar fonograff ar egwyddorion cyffredinol cyfraith ryngwladol a llyfr arall ar hanes llafur dan orfod mewn cyfraith ryngwladol.
Mae'n Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau.
Ymchwil
Mae prif ddiddordebau ymchwil ac addysgu'r Athro Khaliq yn cwmpasu: Cyfraith Ryngwladol Gyhoeddus, Cyfraith Hawliau Dynol Rhyngwladol, Cyfraith yr UE, Polisi Tramor ac agweddau ar Gyfraith Islamaidd. Mae'n aelod pellach o is-banel REF 2021 ar gyfer y Gyfraith (UoA 18) a hefyd yn aelod o fwrdd golygyddol y Gyfraith Ryngwladol a Chymharol Chwarterol.
Ysgolion academaidd
Mae'r Coleg yn cynnwys 10 Ysgol:
- Busnes
- Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth
- Daearyddiaeth a Chynllunio
- Hanes, Archaeoleg a Chrefydd
- Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant
- Y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
- Ieithoedd Modern
- Cerddoriaeth
- Y Gwyddorau Cymdeithasol
- Cymraeg.
Manylion cyswllt
Yr Athro Urfan Khaliq
Rhag Is-Ganghellor a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol