Rhag Is-Ganghellor, Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg
Yr Athro Gavin Shaddick yw'r Rhag Is-Ganghellor, Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg.
Mae’r Athro Shaddick yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o bennu strategaeth a chyfeiriad y Coleg a hyrwyddo datblygiad dysgu ac addysgu, rhagoriaeth ym maes ymchwil ac arloesedd. Ac yntau’n Rhag Is-Ganghellor, mae hefyd yn aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol.
Mae ymchwil yr Athro Shaddick yn cyfuno gwyddor data ynghyd a deallusrwydd artiffisial a gwyddor amgylcheddol. Mae’n arbenigwr sy’n derbyn cydnabyddiaeth yn rhyngwladol ym maes modelu o ran lle ac amser Bayesaidd, ac mae ei waith methodolegol yn cael ei ysgogi gan yr angen am ragor o fodelau a dulliau sy’n caniatáu cynrychiolaeth sy’n fanwl gywir o systemau cymhleth ym maes modelu amgylcheddol, cymorth polisi ac iechyd. Cafodd ei PhD mewn ystadegau ac epidemioleg o Goleg Imperial ac mae’n awdur o dros 180 o gyhoeddiadau ac yn gyd-awdur dau lyfr: The Oxford Handbook of Epidemiology for Clinicians and Spatio-Temporal Modelling in Environmental Epidemiology using R (ail argraffiad).
Mae ei waith ymchwil wedi arwain at effaith fawr ar draws nifer o feysydd gan gynnwys modelu amgylcheddol, epidemioleg a baich byd-eang afiechyd ac iechyd y cyhoedd.
Bu’r Athro Shaddick yn gymrawd Turing yn Sefydliad Alan Turing rhwng 2018 a 2024, sef sefydliad cenedlaethol Gwyddor Data a Deallusrwydd Artiffisial (AI) y Deyrnas Unedig, ble bu’n datblygu ac arwain thema’r Amgylchedd a Chynaliadwyedd. Mae'n aelod o Bwyllgor Llywodraeth y DU ar Effeithiau Meddygol Llygryddion Aer (COMEAP) a'r is-grŵp Meintoli Risg Llygredd Aer (QUARK). Mae’n arwain ar y tasglu Integreiddio Data Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer ansawdd aer, ac yn arwain yn datblygu’r model integreiddio Data ar gyfer ansawdd aer (DIMAQ) sy’n cael ei ddefnyddio i gyfrifo dangosyddion sy’n gysylltiedig ag ansawdd aer ar gyfer Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.
Cyn iddo ymuno â Phrifysgol Caerdydd yn 2024, roedd yr Athro Shaddick yn Ddeon Gweithredol Peirianneg, y Gwyddorau Ffisegol a Mathemategol ac yn Rhag Is-ganghellor Cyswllt Partneriaethau a Chydweithio Allanol ym Mhrifysgol Royal Holloway, Llundain. Cyn hynny, bu’n Gadeirydd Gwyddor Data ac Ystadegau ac yn Bennaeth yr Adran Mathemateg ym Mhrifysgol Caerwysg.