Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant
Sally-Ann Efstathiou yw’r Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant.
Sally-Ann yw’r Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant. Mae’n gyfrifol am arwain a chyflawni swyddogaeth Adnoddau Dynol y Brifysgol, datblygu strategaeth pobl a diwylliant perfformiad y sefydliad, gan gynnwys hyrwyddo lles a bywydau gwaith y staff.
Mae Sally-Ann wedi cyflawni rolau arwain yn y Gwasanaeth Sifil yn y gorffennol. Yn fwyaf diweddar, mae wedi arwain ar strategaeth adnoddau dynol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaeth Adnoddau Dynol y sefydliad. Mae ganddi brofiad maith o ddatblygu a chynllunio sefydliadau, galluogi newid busnes a newid mewn ymddygiad, gan gynnwys ymgysylltu â chyflogeion.
A hithau’n un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, mae gan Sally-Ann radd mewn Newyddiaduraeth, Ffilm a Darlledu. Mae ganddi ddiploma uwch mewn Cyfathrebu. Mae hefyd yn un o Gymrodyr Siartredig y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD), sef y corff proffesiynol ar gyfer adnoddau dynol a datblygu pobl.