Profost a Dirprwy Is-Ganghellor
Yr Athro Damian Walford Davies yw Profost a Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol
Y Profost yw Prif Swyddog Academaidd y Brifysgol. Mae'r Athro Walford Davies yn adrodd i'r Llywydd a'r Is-Ganghellor ac yn gweithio'n agos gyda hi i roi arweinyddiaeth academaidd strategol ar draws tri Choleg y Brifysgol yn ogystal â chyflawni Strategaeth y Brifysgol. Yn y rôl mae cyfrifoldeb dirprwyedig dros reoli llinell y Rhag Is-Gangellorion a Phenaethiaid y Colegau. Mae'n gweithio'n agos gyda'r Prif Swyddog Gweithredu, y Prif Swyddog Trawsnewid, y Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr a'r Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter. Bydd yr Athro Walford Davies yn dirprwyo ar ran yr Is-Ganghellor pan fo angen ac mae'n aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol.
Yn rhan o bortffolio'r Profost a'r Dirprwy Is-Ganghellor y mae atebolrwydd a chyfrifoldeb dros:
- arweinyddiaeth academaidd ar draws Colegau'r Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg a’r Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
- arwain ar adnoddau academaidd ac ar y broses gynllunio a chyllidebu flynyddol yn ogystal â mentrau academaidd sy'n gysylltiedig â chynllunio, gan gynnwys prosiectau sy'n ymwneud â buddsoddiadau strategol ac arbedion effeithlonrwydd
- cyflawni cynllunio tymor byr a hirdymor ynghylch recriwtio myfyrwyr a chyflawni targedau, yn ogystal â nifer a chyfansoddiad y myfyrwyr yn y dyfodol
- arweinyddiaeth strategol Tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Brifysgol a strategaethau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant sy'n ymwneud â’r staff a’r myfyrwyr fel ei gilydd
- materion iechyd, lles a diogelwch sy'n ymwneud â staff a myfyrwyr, ar y cyd â'r Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant
- goruchwyliaeth strategol dros strategaeth a diwylliant Cymraeg y Brifysgol
- gweithio gyda'r Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant i sicrhau perthynas adeiladol gydag Undebau Llafur y campws
- prosesau a pholisïau sy'n ymwneud â llywodraethu corfforaethol;
- cydlynu â Medr/Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil – rheoleiddiwr addysg Cymru
- cydlynu â Llywodraeth Cymru;
- arwain prosiectau o bwys strategol i'r Brifysgol
Yn ddiweddar, arweiniodd yr Athro Walford Davies ddau o brif brosiectau cyfalaf y Brifysgol, sef Canolfan Bywyd y Myfyrwyr a sbarc ǀ spark, parc gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd.
Yr Athro Walford Davies oedd Rhag Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol (2018-2021) a Phennaeth yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth (2014-2018). Ef hefyd oedd Cadeirydd cyntaf Llenyddiaeth Cymru – un o gwmnïau celfyddydau cenedlaethol Cymru (2012-2018) – a Chadeirydd Bwrdd Gwasg Prifysgol Caerdydd (2015-18). Mae'n un o Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Pwyllgorau a grwpiau'r Brifysgol
Mae'r Athro Walford Davies yn cadeirio nifer o bwyllgorau a grwpiau, gan gynnwys:
- Y Broses Gynllunio Integredig flynyddol
- Y Pwyllgor Dyrchafiadau Academaidd
- Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Gwrth-hiliaeth
- Y Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles
- Grŵp Gweithredol y Gymraeg
- Y Cyd-fforwm Ymgynghori a Negodi (gydag undebau'r campws)
- Y Pwyllgor Dileu Swydd
Cyhoeddiadau ac ymchwil
Prif faes ymchwil yr Athro Walford Davies yw Rhamantiaeth, yn benodol y berthynas rhwng llenyddiaeth a gwleidyddiaeth yn ystod oes y chwyldro. Mae ei gyhoeddiadau wedi datblygu dull creadigol a beirniadol o ymdrin â'r pwnc. Ymhlith ei ddiddordebau ymchwil hefyd y mae:
- diwylliannau materol ehangach y cyfnod Rhamantaidd
- Hanesyddiaeth Rhamantaidd a methodolegau Astudiaethau Rhamantaidd
- Rhamantiaeth a daearyddiaeth/cartograffeg
- Ysgrifennu Cymreig yn Saesneg
- Barddoniaeth yr Ugeinfed Ganrif
- Ysgrifennu Creadigol
Ymhlith ei gyhoeddiadau diweddar y mae’r casgliad cyd-olygedigRomantic Cartographies: Mapping, Literature, Culture, 1789-1832 (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2020); y casgliad golygedig Counterfactual Romanticism (Gwasg Prifysgol Manceinion, 2019); ac erthyglau ar Coleridge, llongddryllio a thrawma yn ogystal ag ymgom greadigol-feirniadol Keats â'r clefyd a'i laddodd. Mae'n cwblhau'r gyfrol derfynol ar y cyd o’r Oxford Literary History of Wales y mae'n Olygydd Cyffredinol arni yn ogystal â rhifyn Caergrawnt o nofel Thomas Love Peacock, The Misfortunes of Elphin/em> (1829). Ymhlith ei gasgliadau o farddoniaeth y mae Viva Bartali! (2023), Docklands (2019),Judas (2015), Witch (2012) a Suit of Lights (2009), pob un wedi’i gyhoeddi gan Seren. Ar hyn o bryd mae'n cwblhau prosiectau ar John Keats, Dylan Thomas a Thomas de Quincey, ynghyd â llyfr anffuglennol creadigol,The Ground, sy'n trin a thrafod pum cae yn agos i’w gartref.
Manylion cyswllt
- E-bost: deputyvc@caerdydd.ac.uk
Cynorthwyydd Personol
Emma Fisher
- E-bost: dvc-pa@caerdydd.ac.uk