Ewch i’r prif gynnwys

Prif Swyddog Gweithredu ac Ysgrifennydd y Brifysgol

Dr Paula Sanderson
Prif Swyddog Gweithredu a Ysgrifennydd y Brifysgol, Dr Paula Sanderson

Dr Paula Sanderson yw Prif Swyddog Gweithredu ac Ysgrifennydd y Brifysgol

A hithau’n Brif Swyddog Gweithredu ac Ysgrifennydd y Brifysgol, mae Paula yn gyfrifol am arwain, datblygu a darparu gwasanaethau proffesiynol yn effeithiol ledled y Brifysgol.

Mae Paula, sy’n gyfrifydd siartredig a chanddi raddau Meistr ym maes rheoli addysg drydyddol a gweinyddu busnes, wedi dal uwch-swyddi arwain ym myd addysg uwch, gan gynnwys Rheolwr Gyfarwyddwr Falmouth Exeter Plus a Phrif Swyddog Gweithredu Prifysgol Queen Mary yn Llundain a SOAS, Prifysgol Llundain. Cyn hynny, Paula oedd Prif Swyddog Gweithredu a Chofrestrydd Prifysgol Reading Malaysia a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Canolog Llyfrgelloedd Prifysgol Sydney.

Cwblhaodd Paula Ddoethuriaeth Gweinyddu Busnes (Rheolaeth Addysg Uwch) ym Mhrifysgol Caerfaddon, gan ganolbwyntio ar ddatblygiad cynhwysol a dadwladychu wrth i fyd addysg uwch ryngwladoli, gan ennill Gwobr Traethawd Hir Gorau’r Gymdeithas Addysg Gymharol a Rhyngwladol gan Grŵp Buddiant Arbennig Addysg Uwch yn 2024.

Manylion cyswllt

Cynorthwyydd Personol

Rhian Murphy