Ewch i’r prif gynnwys

Prif Swyddog Systemau Digidol a Gwybodaeth

Prif Swyddog Gweithrediadau Digidol a Gwybodaeth, Daniel Lawrence

Daniel Lawrence yw’r Prif Swyddog Systemau Digidol a Gwybodaeth.

Mae Daniel yn arwain ar ddatblygu strategaeth ddigidol y Brifysgol, gan sicrhau bod gennym y systemau yn eu lle i gefnogi strategaeth y Brifysgol.  Ac yntau’n aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol, bydd Daniel yn chwarae rhan hollbwysig wrth benderfynu sut y bydd cyflwyno technolegau yn diwallu ein hanghenion newydd.

Cyn ymuno â Phrifysgol Caerdydd, Daniel oedd Prif Swyddog Gwybodaeth Ddigidol ym Mhrifysgol Lerpwl ar ôl ymuno â nhw yn dilyn rôl debyg ym Mhrifysgol Birmingham, lle bu’n goruchwylio rhaglenni digidol y ddwy brifysgol ac yn cynnal y Gwasanaethau TG.

Cyn ei brofiad ym myd AU, roedd gan Daniel yrfa helaeth ym maes TG mewn ystod o sectorau yn y DU ac yn fyd-eang, gan gynnwys gweithgynhyrchu yn Rolls Royce a chyllid, gofal iechyd a’r Llywodraeth.

Ac yntau’n Brif Swyddog Systemau Digidol a Gwybodaeth, Daniel sy'n gyfrifol am arwain ar ddatblygu strategaeth ddigidol a chysoni technolegol cynlluniau Trawsnewid uchelgeisiol y Brifysgol; tra hefyd yn sicrhau bod gennym y systemau yn eu lle i gefnogi strategaeth y Brifysgol, gan gysoni hyn â chyflwyno technolegau i fodloni ein hanghenion newydd.

Graddiodd Daniel o Brifysgol Canolbarth Swydd Gaerhirfryn (UCLAN) gan raddio mewn Hanes a Gwleidyddiaeth ym 1993. Mae ganddo hefyd nifer o gymwysterau safonol ym myd TG mewn nifer o ddisgyblaethau technegol, yn ogystal â Rheoli Gwasanaethau TG (ITIL), a Rheoli Prosiectau (PRINCE2) a Rhaglenni (MSP). Mae hefyd yn Ymarferydd cymwys Rheoli Risgiau, (MoR) a Chynllunio Parhad Busnes (BCP).