Ewch i’r prif gynnwys

Dirprwy Ganghellor

Y Parchedig Gareth Powell
Y Parchedig Gareth Powell

Y Parchedig Gareth J Powell BA (CNAA), MA (Birmingham).

Ymunodd Gareth Powell â Chyngor a Llys Prifysgol Caerdydd ar 1 Awst 2010. Fe'i penodwyd yn Is-Gadeirydd y Cyngor ym mis Awst 2016 tan fis Gorffennaf 2019. Roedd hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Llywodraethu a'r Pwyllgor Polisïau ac Adnoddau, ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Taliadau. Fe'i benodwyd yn Rhag-Ganghellor y Brifysgol o fis Awst 2019 ymlaen.

Mr Powell oedd Ysgrifennydd Cynhadledd y Methodistiaid rhwng 2014 a 2019, ar ôl bod yn Ysgrifennydd Cynorthwyol yn y gorffennol. Mae Ysgrifennydd y Gynhadledd yn chwarae rhan flaenllaw wrth oruchwylio ac arwain Eglwys Fethodistaidd Prydain.

Astudiodd Mr Powell ddiwinyddiaeth yng Ngholeg Westminster, Rhydychen. Hyfforddodd i fod yn weinidog yng Queen’s College, Birmingham, gan ennill MA mewn Diwinyddiaeth Fugeiliol, cyn treulio amser yn  Ysgol Astudiaethau Ecwmenaidd Ôl-raddedig, Prifysgol Genefa.

Bu'n Gaplan ym Mhrifysgol Coventry rhwng 1997 a 1999, ac roedd yn Gaplan Methodistaidd ac yn Gydlynydd y Gaplaniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd rhwng 1999 a 2008.