Ewch i’r prif gynnwys

Y Canghellor

Laura Trevelyan

Laura Trevelyan (PGDip 1991, Anrh 2022)

Newyddiadurwraig Brydeinig-Americanaidd ac eiriolwr blaenllaw dros agenda cyfiawnder unioni yn y Caribî yw Laura Trevelyan.

Bu Laura yn gweithio am 30 mlynedd yn y BBC, gan ohebu o bob cwr o'r DU a'r byd. Bu yno pan gafodd hanes ei greu, gan ohebu’n fyw o Belfast wrth i Gytundeb Dydd Gwener y Groglith Gogledd Iwerddon gael ei negodi ym 1998, o Bencadlys Trump ar noson yr etholiad yn 2016, ac o risiau adeilad y Capitol yn UDA yn ystod terfysgoedd 6 Ionawr 2021.

Bu’n gohebu hefyd o ganol corwynt, ar ganlyniadau'r ddaeargryn yn Haiti, o wersylloedd ffoaduriaid yn Darfur, ac ar etholiadau'r DU, yr Unol Daleithiau a Brasil.

Cyn gadael y BBC, aeth Laura ar daith hanesyddol i Grenada ym mis Chwefror 2023 lle’r ymddiheurodd teulu’r Trevelyan yn gyhoeddus i bobl Grenada am rôl eu hynafiaid wrth gaethiwo pobl o Affrica ar yr ynys.

Traddododd Laura ddarlith gyntaf Syr Tom Hopkinson ym mis Mawrth 2024 pan alwodd ar i lywodraeth Prydain a'i phrif sefydliadau ymchwil wneud ymrwymiad ariannol i gadw archifau mewn perygl yn y Caribî.

Mae hi’n gyd-sylfaenydd Heirs of Slavery, sef grŵp o bobl o Brydain yr oedd eu hynafiaid wedi elwa ar gaethiwo pobl o Affrica yn y Caribî. Mae Heirs of Slavery yn annog teuluoedd eraill sydd â hanes tebyg i gydnabod y gorffennol cythryblus hwn ac yn galw ar i lywodraeth Prydain gymryd rhan mewn trafodaethau ynghylch cyfiawnder unioni gyda llywodraethau yn y Caribî. Mae hi'n cymryd rhan yn neialog gyntaf UNESCO er cyfiawnder unioni.

Mae gan Laura, a anwyd yn Llundain, radd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn gwleidyddiaeth o Brifysgol Bryste a diploma ôl-raddedig mewn newyddiaduraeth papurau newydd o Brifysgol Caerdydd. Mae’n byw yn Brooklyn, Efrog Newydd gyda'i gŵr James Goldston (PGDip 1991, Anrh 2019), cyn-lywydd ABC News a bellach Llywydd Candle True Stories, cwmni ffilmiau dogfen byd-eang. Cyfarfu Laura a James pan oedd y ddau yn astudio newyddiaduraeth yng Nghaerdydd. Mae gan y pâr dri o feibion sydd bellach yn oedolion.

Mae Laura yn aelod o'r Cyngor ar Gysylltiadau Tramor ac yn un o ymddiriedolwyr Llyfrgell Gladstone yng Nghymru. Mae hi'n awdur dau o lyfrau, A Very British Family; The Trevelyans and their World, a The Winchester; An American Dynasty.