Suzanne Rankin
Dechreuodd Suzanne ei gyrfa nyrsio a rheoli gyda'r Llynges Frenhinol, Gwasanaeth Nyrsio Llynges Frenhinol y Frenhines Alexandra yn cymhwyso fel Nyrs Gyffredinol Gofrestredig ym 1990. Yn dilyn hynny, fe wnaeth ymgymryd â hyfforddiant ôl-raddedig mewn trawma ac orthopaedeg yn yr Ysbyty Orthopedig Brenhinol Cenedlaethol.
Ar ôl iddi fynd i Goleg Llynges Frenhinol Britannia, cafodd ei chomisiynu a pharhaodd Suzanne i wasanaethu gartref a thramor gan gynnwys ar wasanaeth gweithredol.
Graddiodd Suzanne gydag MA mewn Astudiaethau Amddiffyn yn dilyn cael hyfforddiant Gorchymyn Uwch a Staff yng Ngholeg Gorchymyn a Staff y Cyd-wasanaethau yn 2005 a chafodd ei phenodi i'r Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD) ym maes Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Amddiffyn Meddygol. Rhoddodd gymorth a chyngor staff i'r Ymgynghorydd Amddiffyn Nyrsio a'r Llawfeddyg Cyffredinol ar strategaeth nyrsio, arweinyddiaeth a materion proffesiynol.
Yn 2008, ymadawodd Suzanne y Llynges Frenhinol i ddechrau ar yrfa yn y GIG a ddaeth ym Mhrif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ym mis Chwefror 2022. Ymunodd Suzanne â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro o Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ashford a Sant Pedr yn Surrey, a hithau eu Prif Nyrs gyntaf. Wedi hynny, fe ddaeth hi’n Prif Swyddog Gweithredol yn 2014.
Mae Suzanne yn cynnig arweinyddiaeth strategol a thosturiol wrth gynnig gwasanaethau gofal iechyd cynradd, uwchradd, trydyddol, iechyd meddwl, deintyddol a chymunedol i gymunedau Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae hi'n canolbwyntio ar weithio ar y cyd a gweithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd a llesiant a meithrin perthnasoedd cymunedol a gwytnwch gan hefyd meithrin y diwylliant “cywir” sy’n galluogi rhoi gofal o'r ansawdd uchaf gyda ffocws ar ddysgu, datblygu a gwella parhaus.
Yn rhan o'i rôl bresennol, Suzanne yw Uwch Swyddog Cyfrifol Partneriaeth Genomeg Cymru, Rhaglen Therapïau Uwch Cymru a'r Rhaglen Genedlaethol Patholeg ac mae'n gweithio gyda chydweithwyr amlddisgyblaethol ledled Cymru i sicrhau bod dinasyddion Cymru yn cael gafael ar ddiagnosteg, therapïau a thriniaethau newydd a'r manteision cysylltiedig mewn canlyniadau clinigol mewn modd teg ac amserol.