Yr Athro Fonesig Janet Finch
Mae’r Fonesig Janet wedi treulio’r rhan fwyaf o’i gyrfa broffesiynol mewn prifysgolion, ac yn fwy diweddar mewn swyddi anweithredol gyda’r gwasanaethau cyhoeddus a’r sector nid-er-elw. Mae hi’n gymdeithasegydd, ac mae ei harbenigedd academaidd ym maes perthnasoedd teuluol.
Roedd ganddi nifer o rolau ym Mhrifysgol Caerhirfryn cyn iddi gael dyrchafiad i fod yn Rhag Is-Ganghellor. Wedi hynny, bu’n Is-ganghellor Prifysgol Keele am bymtheg mlynedd.
Yn y swydd honno fe arweiniodd sawl menter yn ymwneud ag iechyd yn sector y prifysgolion, yn ogystal â sefydlu Uned Hyrwyddo Cydraddoldeb ar gyfer addysg uwch a hi oedd cadeirydd cyntaf y corff.
Mae gan y Fonesig Janet brofiad o gadeirio a bod yn aelod o fyrddau anweithredol.
Mae ganddi brofiad helaeth o rolau arwain gyda chyrff cenedlaethol sy’n gysylltiedig ag ymchwil, gwyddoniaeth, addysg ac iechyd. Mae hi wedi cadeirio byrddau Ymchwil Gymdeithasol NatCen, y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ac Ombudsman Services Ltd. Bu hefyd yn gyd-gadeirydd annibynnol Cyngor Gwyddoniaeth a Thechnoleg y Prif Weinidog, corff ymgynghorol uchaf y llywodraeth mewn gwyddoniaeth.
Mae hefyd yn aelod o fyrddau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, Swyddfa Basport Ei Mawrhydi, a’r Cyngor Ymchwil Meddygol. Mae ganddi hefyd brofiad o bwyllgora, gan gynnwys pwyllgorau ymchwil ac archwilio. Ar hyn o bryd, mae hi’n aelod o Gyngor Research England.