Ewch i’r prif gynnwys

Louise Casella

Arweinydd ym maes addysg uwch yw Louise Casella, ac mae ganddi dros 35 mlynedd o brofiad ym mhrifysgolion Cymru a’r DU yn ehangach.

Louise Casella - Aelod o'r Cyngor
Louise Casella - Aelod o'r Cyngor

Datblygodd Louise ei harbenigedd a’i sgiliau  ym Mhrifysgol Caerdydd, lle bu’n gweithio am 25 mlynedd. Dechreuodd fel Cynorthwyydd Graddedigion ym 1988. Daeth hi’n Bennaeth Cynllunio ym 1996, yn Uwch Swyddog Gweithredu ac yn Bennaeth Swyddfa’r Is-Ganghellor ym 1999.  Wedi i’r Brifysgol uno â Choleg Meddygaeth Prifysgol Cymru, bu’n arwain y gyfarwyddiaeth Ddatblygu Strategol rhwng 2004 a 2012. Louise oedd cadeirydd grŵp Cyfarwyddwyr y Gwasanaethau Proffesiynol ym Mhrifysgol Caerdydd cyn cael ei phenodi’n Brif Swyddog Gweithredu, ac roedd yn aelod o Fwrdd Gweithredol Cymdeithas Penaethiaid Gweinyddu Prifysgolion y DU (AHUA), Cadeirydd Cofrestryddion Grŵp Russell a Chadeirydd y DU ar gyfer grŵp Cofrestryddion y DU a Sweden.

Rhwng 2012 a 2018, roedd Louise yn ymgynghorydd annibynnol yn sector y prifysgolion a’r trydydd sector ac ymgymerodd â nifer o uwch rolau dros dro. Yn ystod y cyfnod hwn, bu ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam am 18 mis, yn ddirprwy dros dro i’r Is-Ganghellor, ac arweiniodd y gwaith o greu’r cynllun strategol a chyflawni a roddodd sylfaen ariannol ac academaidd gadarn i’r brifysgol ar ôl cyfnod cythryblus.

Yn 2018, derbyniodd Louise swydd barhaol fel Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, swydd yr oedd wrth ei bodd, a bu yno am bum mlynedd a hanner. Yn ystod y cyfnod hwn, fe wnaeth nifer y myfyrwyr yn y Brifysgol Agored yng Nghymru fwy na dyblu. Llwyddodd y Brifysgol gyrraedd cymunedau nad ydyn nhw’n cael eu gwasanaethu’n ddigonol ledled Cymru, gan fabwysiadu ethos agored mewn partneriaethau a pherthnasoedd gyda sefydliadau allweddol ledled y wlad, ac chreu effaith gymdeithasol ac economaidd ehangach.

Fe wnaeth Louise ymddeol o weithio’n llawn amser yn 2023 ac mae'n byw yng Nghaerdydd gyda'i gŵr, Mike (cyn-fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd).  Mae hi'n ymweld â Chanada yn gyson, lle mae ganddi deulu agos, ac mae'n mwynhau cerddoriaeth, y theatr, teithio a threulio amser gyda’i theulu a’i ffrindiau.