Ewch i’r prif gynnwys

John Shakeshaft

Mae John yn fanciwr masnachol, yn gyfarwyddwr cwmni rhyngwladol, ac yn gyn-ddiplomydd. Mae ganddo brofiad masnachol sylweddol mewn arwain strategaethau ariannol, hyrwyddo llywodraethu cyfrifol yn ogystal â bod yn ymddiriedolwr a chadeirydd yn y Celfyddydau ac Addysg Uwch.

John Shakeshaft - Aelod Lleyg o’r Cyngor
John Shakeshaft - Aelod Lleyg o’r Cyngor

Mae'n gadeirydd Amgueddfa'r Cartref, sy’n amgueddfa genedlaethol, a hefyd yn gadeirydd Cyngor Ymchwil Prydain yn y Lefant. Mae’n ymddiriedolwr a thrysorydd Sefydliad Ymchwil Canser, ac ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Cerddorfa Symffoni Llundain a Llyfrgell Gladstone. Mae'n aelod o bwyllgorau buddsoddi ac archwilio Coleg y Drindod, Caergrawnt ac yn gadeirydd grŵp derbyn cronfeydd yr Academi Brydeinig.

Mae hefyd yn ddirprwy gadeirydd Freeport Solent Ltd ac yn gynghorydd i gronfeydd buddsoddi penodol yn y DU.

Bu’n uwch ymddiriedolwr annibynnol ac yn gadeirydd lleyg Cyngor Prifysgol Caergrawnt, yn aelod o fwrdd Kinnevik, AB a’u cadeirydd archwilio yn ogystal â chadeirydd The Economy Bank, NV. Bu hefyd yn gyfarwyddwr TT electronics, plc, Tele2 AB, Questair, Inc, Carnegie, AB ac yn cadeirio tair cronfa fuddsoddi restredig. Bu’n rheolwr gyfarwyddwr a phartner yng nghwmnïoedd y Brodyr Lazard a Baring. Bu’n gweithio ym Mrwsel, Tehran ac Addis Ababa yng Ngwasanaeth Diplomyddol EF. Astudiodd ym Mhrifysgol Caergrawnt, Princeton, Berkeley a SOAS.