Ewch i’r prif gynnwys

Chris Jones

Mae gan Chris 25 mlynedd o brofiad fel Prif Swyddog Gweithredol, Prif Swyddog Ariannol a chyfarwyddwr anweithredol (NED) mewn ystod o fusnesau sy'n gweithredu mewn amgylcheddau rheoledig iawn (gwasanaethau ariannol a chyfleustodau a’r cyfryngau), gyda ffocws cryf ar wasanaethu cwsmeriaid a chynaliadwyedd tymor hir.

Roedd yn gyd-sylfaenydd Glas Cymru Cyf. a gaffaelodd Ddŵr Cymru yn 2001 i greu’r unig gwmni cyfleustodau preifat yn y DU sydd heb gyfranddalwyr. Roedd Chris yn Brif Swyddog Cyllid Dŵr Cymru rhwng 2001 a 2013 ac yna'n Brif Swyddog Gweithredol nes iddo roi'r gorau i'w swydd ym mis Mai 2020.

Ar hyn o bryd, fe yw Uwch-Gyfarwyddwr Annibynnol S4C, Cyfarwyddwr Anweithredol Xoserve Limited (darparwr gwasanaethau data canolog i farchnad nwy Prydain) a bu’n Gyfarwyddwr Anweithredol Cymdeithas Adeiladu’r Principality. Mae wedi bod yn ymddiriedolwr i sawl sefydliad ac wedi bod mewn rolau ymgynghorol gyda sefydliadau trydydd sector, gan gynnwys Ymddiriedolaeth y Tywysog, Sefydliad Materion Cymreig, Water UK a CBI Cymru.

Mae Chris yn siaradwr Cymraeg, ar ôl dysgu fel oedolyn. Dyfarnwyd CBE iddo yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2020.