Agnes Xavier-Phillips JP DL
Mae Agnes Xavier-Phillips yn gyfreithwraig gymwysedig a ddarllenodd y gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd. Safodd arholiadau terfynol Cymdeithas y Gyfraith yng Ngholeg y Gyfraith Guildford.
Ar ôl ymarfer yn breifat, ymunodd â chwmni, ac mae wedi gweithio i NatWest, Abbey National ac, yn olaf, GE Capital o ganlyniad i gyfuno a chaffael.
Hi yw cyn-Gwnsler Cyffredinol a Rheolwr Cysylltiadau â Chleientiaid GE Capital. Mae hefyd yn un o Gyfryngwyr Achrededig y Ganolfan ar gyfer Datrys Anghydfodau’n Effeithiol. Hi hefyd oedd Arweinydd Hyb Rhwydwaith Menywod GE, a gwnaeth gynrychioli’r diwydiant gwasanaethau ariannol ar y Gweithgor Mynediad at Gyfiawnder ar gyfer Diwygiadau Woolf a chymryd rhan yn rhaglen faerol y Fonesig Fiona Woolf, cyn-Arglwydd Faer Dinas Llundain, ar Amrywiaeth a Symudedd Cymdeithasol. Hi hefyd oedd cynrychiolydd GE ar Bwyllgor Cyfreithiol Cyngor y Benthycwyr Morgeisi a Chadeirydd cyntaf y Fforwm Cyfreitha Cyllid a Phrydlesi.
Mae’n un o Ryddfreinwyr Dinas Llundain ac yn un o Lifreiwyr cwmni City of London Solicitors’, cwmni cymrodeddwyr Llundain a Chwmni Lifrai Cymru. Hi yw Warden Iau a Chadeirydd y Pwyllgor Cysylltiadau Cyhoeddus ar hyn o bryd. Mae hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Gwobrau, Aelodaeth, a Digwyddiadau Elusennol a Mentor y Cwmni Lifrai olaf.
Rhoddodd y gorau i gyflogaeth amser llawn, ac mae ganddi yrfa bortffolio erbyn hyn. Mae’n aelod o Bwyllgorau Cyngor, Archwilio a Risg, Diswyddiadau a Chymrodoriaethau Prifysgol Caerdydd. Mae hi hefyd yn Aelod o Ddŵr Cymru, Is-lywydd o Glwb Busnes Caerdydd, Cyfarwyddwr FFIN DANCE Cymru ac yn un o Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Elusennol Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru.
Ym mis Ebrill 2018, penodwyd Agnes yn Ynad Heddwch (JP) yng Nghymru. Ym mis Hydref 2019 fe’i penodwyd yn Ddirprwy Arglwydd Raglaw Gwent ac mae’n aelod o’u Pwyllgor Anrhydeddau.